Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awdur: Yr Athro Jonathon Gray, Cadeirydd, y Gyfadran Gwella Gofal Iechyd

Cyhoeddwyd: 

Ysgrifennwyd y papur gwyn hwn i gasglu pwyntiau dysgu allweddol mewn seminarau a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a oedd yn mynd i’r afael â’r cwestiynau: “Os mai ansawdd a diogelwch cleifion yw’r blaenoriaethau mewn sefydliad, sut olwg sydd ar hyn?’ a “Sut rydym yn ymgorffori gwelliant mewn gwasanaethau gofal iechyd?”

Cynhaliwyd y seminarau yn Abertawe ar 29 Medi 2009 ac yng Nghaerdydd ar 22 Mawrth 2010. Mynychwyd y ddau seminar gan Brif Weithredwyr a Chadeiryddion Byrddau Iechyd GIG Cymru, aelodau o'r Gyfadran Gwella Gofal Iechyd, Comisiwn Bevan, arweinwyr clinigol, a gwahoddedigion eraill o fewn y GIG yng Nghymru.