Ian Pope a Phillip Alstead
Sefydliad Rainbow a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae'r prosiect hwn yn cyflwyno Rhaglen Cymorth Cymdeithasol, Seicolegol a Chorfforol y profwyd ei bod yn allweddol i newidiadau ymddygiad sy'n arwain at welliannau cynaliadwy hirdymor mewn iechyd meddwl a chorfforol Pobl Hŷn. Mae Active Futures yn gweithio ar ddull tri cham o gefnogi pobl hŷn, y mae llawer ohonynt â hwyliau isel/iechyd meddwl gwael pan fyddant yn cychwyn. Mae gan y bobl hyn gyflyrau MSK, breuder, ac maent mewn perygl o gwympo.
Rhagwelir y bydd y prosiect yn gwella hunan-barch ac iechyd corfforol y rhai sy'n cymryd rhan yn ogystal â lleihau ymweliadau â meddygon teulu/nyrs, ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys, galwadau ambiwlans a thoriadau clun.




