Portrait of lady holding an award

Jenna Tugwell-Allsup

Job Title:

Radiograffydd Ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Email:

Fel radiograffydd ymchwil yn gweithio yn y GIG, rwyf wedi clywed am nifer o brofiadau cadarnhaol o gydweithio gyda Chomisiwn Bevan gan staff sydd wedi bod ynghlwm â’r comisiwn fel Esiamplwyr Bevan, yn ogystal â gan Dr Chris Subbe, clinigwr llwyddiannus yn y maes ymchwil ac arloesi – Cymrawd Bevan. Gwnes gais am y rhaglen Cymrodorion Bevan am sawl rheswm; cydweithio, rhwydweithio ac er mwyn datblygu llwyfan i ledaenu a dangos fy ngwaith.

Fel ymchwilydd, rwy’n gwneud fy ngwaith yn annibynnol; wedi dweud hynny, un o’m meysydd yr hoffwn ei ddatblygu yw lledaenu fy ngwaith wedi’i gwblhau ar ôl ei gyhoeddi. Credwn fod y rhaglen Cymrodorion Bevan yn gyfle rhagorol i rwydweithio gydag arbenigwyr yn y maes ymchwil, yn cynnig cymorth a sylw i’m prosiectau wrth wella eu heffeithiolrwydd a’u credadwyedd. Gall ymchwil fod yn brofiad unig iawn, ac roeddwn yn ystyried y Comisiwn Bevan fel cyfle i’m cyflwyno i gysylltiadau ac adnoddau newydd i gynorthwyo gyda gwneud fy ymchwil yn brofiad mwy agored a chymdeithasol, yn enwedig o ran hyrwyddo cydweithio rhwng ymchwilwyr yng Nghymru.

Rwy’n radiograffydd diagnostig cymwys wedi pontio i rôl ymchwil clinigol yn 2012. Mae fy rôl gyfredol yn cynnwys addysgu, hwyluso, cefnogi a chynnal ymchwil o fewn radioleg a thu hwnt iddi. Roedd pontio o’m rôl glinigol i’r rôl ymchwil yn gyffrous ond heriol. Er mwyn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth, penderfynais ymrestru ar Raglen MPhil gyda Phrifysgol Salford a ddatblygodd fy hyder a’m cymhwysedd mewn ymchwil clinigol. Cwblheais fy MPhil yn 2017 ac erbyn hyn rwy’n dilyn PhD drwy gyhoeddi gwaith gyda Phrifysgol Salford. Maes fy arbenigedd ymchwil yw optimeiddio ansawdd delweddau a dos pelydredd mewn radioleg, gyda chyhoeddiadau ychwanegol y tu hwnt i’r maes hwn, e.e. gorbryder MRI.

Fy mhrif ddiddordebau ymchwil yw:

Mae fy niddordeb mewn gwerthuso ansawdd delweddau yn plethu gydag un o’m rolau eraill yn cynnal mesuriadau RECIST ar gyfer treialon clinigol yn seiliedig ar oncoleg.

Rwyf wedi gosod nifer o nodau i mi fy hun fel Cymrawd Bevan:

  1. Datblygu cynigion llwyddiannus ar gyfer cyllid grant. Rwyf wedi sicrhau sawl grant bach dros y rhai blynyddoedd diwethaf 2 x (£5k), a gafodd eu defnyddio ar gyfer treialon gorbryder MRI a’r astudiaeth optimeiddio newydd-anedig. Wedi dweud hynny, mae gennyf ddiddordeb mewn datblygu fy ngwaith ymhellach a gwneud cais am grantiau mawr gyda fy ffocws yn parhau i fod ar optimeiddio ond hefyd trosi canfyddiadau yn ymarfer, yn enwedig mewn perthynas â thechnoleg radiograffeg ddigidol newydd.
  2. Cefnogi, hwyluso a goruchwylio unigolion wrth ymgymryd â chymwysterau ymchwil. Byddaf yn annog staff clinigol y GIG, o faes radioleg a’r rheini o ddisgyblaethau eraill, i olrhain prosiect ymchwil neu yrfa o ymchwil hyd yn oed. Gan ddefnyddio’r dull gweithredu hwn, rwy’n gobeithio annog mwy o staff i ymgymryd â MRes, MPhil a PhD. Rwy’n bwriadu gwneud hyn drwy arddangos buddion olrhain gyrfa academaidd glinigol gan ddefnyddio archwiliadau/cyfarfodydd gwella ansawdd, cynadleddau a digwyddiadau arddangos i bwysleisio’r gwaith yr ydw innau ac eraill yn ei wneud mewn Bwrdd Iechyd. Yn ogystal, rwy’n cynnal ychydig o sesiynau addysgu ymchwil ym Mhrifysgol Bangor gyda’r gobaith o ddatblygu fy niddordeb a meithrin diddordeb ymchwil yng nghamau cynnar gyrfa.
  3. Canolbwyntio ar drosi fy nghanfyddiadau yn ymarfer. Cyflawnir hyn drwy ymdrechu i safoni a hyrwyddo newid mewn ymarfer clinigol gan ddefnyddio egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus i gynorthwyo a chefnogi’r trosi hwn. Ar ôl awdurdodi newid mewn ymarfer, yna byddai angen sefydlu gwerthusiad o ymarfer drwy archwiliad rheolaidd wrth ledaenu canfyddiadau er mwyn annog eraill i weithredu ar ganfyddiadau.

Sut mae Covid-19 wedi effeithio ar fy ngwaith

Cwblheais fy mhrosiect yn canolbwyntio ar fabanod newydd-anedig ym mis Mawrth 2020 ac mae gennyf bedwar cyhoeddiad o ganlyniad. Ariannwyd yr astudiaeth derfynol gan y Coleg a Chymdeithas y Radiograffwyr. Dechreuodd y prosiect newydd-anedig gydag adolygiad systematig er mwyn archwilio’r bylchau mewn gwybodaeth a’r wybodaeth a oedd eisoes yn hysbys ynghylch y pwnc, ac yna holiadur. Anfonwyd holiadur yn seiliedig ar ddelweddu babanod newydd-anedig at bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru a gogledd-orllewin Lloegr (os oedd uned newydd-anedig yno) er mwyn casglu gwybodaeth ynghylch ymarfer gweithredol ar gyfer delweddu babanod newydd-anedig. Yn yr adolygiad systematig a’r holiadur, dangoswyd bwlch sylweddol yn y llenyddiaeth ac amrywiaeth sylweddol yn yr ymarfer clinigol cyfredol wrth ddelweddu babanod newydd-anedig. Yn y pendraw, arweiniodd hyn at brosiect uchafu arbrofol a oedd yn anelu at uchafu a safoni delweddu cyrff babanod newydd-anedig mewn deoryddion. Dyma’r astudiaeth uchafu gyntaf i ystyried ansawdd delweddau gweledol a gwrthrychol ar gyfer delweddu deoryddion ond hefyd y gyntaf i roi dos effeithiol (risg pelydredd i fabanod newydd-anedig) i gymharu yn erbyn ansawdd delweddau.

Yn sail i’r arbrawf oedd dwy astudiaeth ragarweiniol fanwl fel y disgrifiwyd uchod. Roedd y canfyddiadau yn cynnwys (heb fod yn rhy dechnegol): gan ddefnyddio’r hambwrdd deori, roedd ansawdd delweddau yn lleihau a’r dos effeithiol yn uwch, gan wneud amlygiad uniongyrchol yn fwy dymunol o bersbectif delweddu. Wedi dweud hynny, mae sefyllfaoedd pan mae’r hambwrdd yn hanfodol er mwyn osgoi tarfu ar y baban newydd-anedig am wahanol resymau diogelwch. Felly mae’r astudiaeth yn argymell dau gyfuniad o baramedrau caffael; un ar gyfer amlygiad uniongyrchol a’r llall ar gyfer amlygiad hambwrdd lle mae mA’s a SID yn cael eu haddasu yn unol â hynny.

Y cam nesaf yw lledaenu canfyddiadau’r astudiaethau hyn a’u rhoi ar waith yn lleol a’u harddangos yn rhyngwladol gyda chefnogaeth Comisiwn Bevan.

Mae’r canfyddiadau hyd yn oed yn fwy arwyddocaol yn ystod y pandemig wrth iddo atgyfnerthu’r defnydd o hambwrdd deorydd fel y disgrifir uchod er mwyn osgoi croes-halogi gan fod nifer o bobl yn parhau i osod y derbynyddion delwedd yn uniongyrchol y tu ôl i’r babanod newydd-anedig. Mae hefyd yn codi cwestiynau ynghylch dyluniad deoryddion a allai fod yn faes gwaith arall yn y dyfodol, yn enwedig ar y cyd â gweithgynhyrchwyr. Yn rhy aml rydym yn gweld ymarferion yn cael eu gweithredu’n glinigol heb dystiolaeth empirig ac felly mae’n chwa o awyr iach gwneud ychydig o waith ymchwil a gweld a ydyw’n dylanwadu ar ein ffordd o weithio. Mae peth o’m gwaith yn y gorffennol yn canolbwyntio ar ddelweddu trolis wedi dylanwadu ymarfer clinigol ac yn y pendraw mae radiograffeg wedi bod yn cyfrannnu’n sylweddol at gaffael ac ail-ddylunio nodweddion y trolis a ddefnyddir yn yr Adran Achosion Brys; y nod yw gwneud yr un fath ar gyfer deoryddion babanod newydd-anedig.

Rwyf wedi bod yn Gymrawd Bevan ers dros 12 mis, am resymau amlwg mae’r 6 mis diwethaf wedi bod yn dawel iawn o ran digwyddiadau rhwydweithio, ac rwyf yn dal heb fynychu digwyddiad wyneb yn wyneb fel Cymrawd Bevan! Rwyf wedi cadw cyswllt gyda sawl un ac yn y dyfodol rwy’n gobeithio mynychu (yn rhithiol neu, gydag amser, yn wyneb yn wyneb) digwyddiadau Comisiwn Bevan.

Edrych tua’r dyfodol

Mae fy uchelgeisiau yn cynnwys cymryd rhan a chyfrannu at fwy o ddigwyddiadau arddangos, boed ydynt yn ddigwyddiadau gan y Comisiwn Bevan, yn benodol i radiograffeg neu’n ddigwyddiadau yn seiliedig ar ymchwil er mwyn cael cyfle i rwydweithio; mae rhwydweithio yn hollbwysig ar gyfer cyfeirio a chreu cysylltiadau gydag arbenigwyr eraill megis gweithwyr iechyd perthynol, academyddion clinigol neu unrhyw un a fyddai â diddordeb mewn cydweithio ar brosiectau’r dyfodol.

Gobeithiaf ddefnyddio fy rôl fel Cymrawd Bevan i ddatblygu cysylltiadau gydag arbenigwyr sydd â phrofiad ym meysydd yr wyf yn awyddus eu datblygu, megis casglu data, h.y. datblygu meddalwedd a TG, sicrhau grantiau mawr neu baratoi achos busnes etc. Rwy’n troi at Gomisiwn Bevan i fy nghynorthwyo i ddod o hyd i adnoddau priodol, yn ogystal â bod yn ffynhonell wybodaeth pan wyf yn wynebu rhwystrau ar y llwybr ymchwil.

Yn ogystal, rwyf eisoes ynghlwm ag ystod o brosiectau eraill ar hyn o bryd, gan gynnwys treial clinigol ar MRI mewn perthynas â Chanser yr Ofari, Cronfa Ddata Delweddu Cenedlaethol Covid-19 ac astudiaethau optimeiddio eraill, gan gynnwys prosiect babanod newydd-anedig yn canolbwyntio ar hidlo copr fel techneg lleihau dos i’w weithredu ar gyfarpar radiograffeg ddigidol.

Yn y dyfodol, rwyf hefyd yn awyddus cymryd rhan mewn mwy o brosiectau Cymru gyfan, neu annog mwy ohonynt, wedi’u hwyluso gan y Comisiwn Bevan. Yn aml mae prosiectau gwych yn digwydd yn lleol, ond nid ydynt byth yn cael eu lledaenu. Byddai data gan fwy o Fyrddau Iechyd yng Nghymru yn dilysu canfyddiadau o’r fath ac yn gweld pethau yn cael eu gweithredu ledled Cymru. Gallai’r prosiectau hyn fod yn ymchwil, ond gallent hefyd fod yn brosiectau Gwella Ansawdd, felly os cewch gyfle i gymryd rhan yn unrhyw brosiect y gellid ei wneud drwy Gymru, rwyf wastad yn barod i gynnig cymorth neu eich cyfeirio at yr unigolyn priodol. Mae fy nghefndir yn y maes radiograffeg ond mae gennyf sawl cyswllt ar draws y Byrddau Iechyd mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi.

Rwyf wastad yn croesawu cyfleoedd i gydweithio:

Cyfeiriadau

  1. Tugwell-Allsup J, England A. Imaging neonates within an incubator – A survey to determine existing working practice. Radiography 2020; 26(1): 18-23 https://doi.org/10.1016/j.radi.2019.07.005.
  2. Tugwell-Allsup J, England A. A systematic review of incubator-based neonatal radiography – What does the evidence say? Radiography 2019, In Press https://doi.org/10.1016/j.radi.2019.09.009.
  3. Tugwell-Allsup J, Morris RW, Hibbs R, England A. Optimising image quality and radiation dose for neonatal incubator imaging. 2020. In press
  4. Tugwell- Allsup J, Kenworth D, England A. Mobile chest imaging of neonates in incubators: Optimising DR and CR acquisitions. Radiography 2020 https://doi.org/10.1016/j.radi.2020.06.005

Yn chwilio...

Yn anffodus, does dim byd yn cyfateb i’ch termau chwilio.