Cefndir Comisiwn Bevan

Comisiwn Bevan yw melin drafod iechyd a gofal blaenllaw Cymru, a chaiff ei gynnal a'i gefnogi gan Brifysgol Abertawe.

Ein cenhadaeth yw herio ffyrdd o feddwl ac ymarfer mewn iechyd a gofal, gan greu mudiad cynyddol dros newid gyda’r bobl yn y system a’r rhai sy’n defnyddio’r system. Rydym yn gweithio i ehangu a mewnosod y mudiad hwn o fewn sefydliadau, a rhyngddynt, a hynny mewn tair ffordd:

Herio

Rydym yn croesawu dealltwriaethau annibynnol a newydd, ac yn gweithredu fel ‘cyfeillion beirniadol’ er mwyn cynorthwyo arweinwyr i wneud penderfyniadau dysgedig ynghylch iechyd a gofal yng Nghymru, ledled y DU a thu hwnt.

Newid

Rydym yn cefnogi unigolion a thimau uchelgeisiol i ddylunio methodolegau a dulliau newydd, eu rhoi ar waith, eu profi, a’u cyflwyno er mwyn trawsnewid iechyd a gofal.

Hyrwyddo

Rydym yn dylanwadu ar bolisïau ac ymarfer drwy waith ymchwil, hyfforddiant a gwaith archwiliadol a chydweithredol ehangach, gan ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Rydym yn ymroddedig i sicrhau y gall Cymru gyflawni ei huchelgais o ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal corfforedig er mwyn bodloni anghenion pobl yn ein pentrefi, trefi a’n dinasoedd, gan gynnal yr un safonau â’r systemau cyffelyb gorau ar draws y byd.

Sefydlwyd Comisiwn Bevan yn wreiddiol yn 2008 gan yr Athro Syr Mansel Aylward fel panel annibynnol o Gomisiynwyr i ddarparu cyngor a chonsensws ynghylch materion iechyd a gofal i Lywodraeth Cymru.

Rydym yn parhau i dynnu ar arbenigedd a dealltwriaeth Comisiynwyr Bevan, ac wedi addasu er mwyn rhoi ein ffyrdd o feddwl a’n dysg ar waith i hwyluso ac arwain y gwaith o drawsnewid iechyd a gofal mewn sefydliadau ledled Cymru a’r byd. Erbyn hyn, mae ffordd o feddwl Comisiwn Bevan yn dylanwadu llywodraethau cenedlaethol a systemau iechyd ar draws Ewrop, Awstralasia a Gogledd America.