Cymrawd Bevan

Bu David yn gweithio fel gwyddonydd biofeddygol am nifer o flynyddoedd cyn astudio iechyd y cyhoedd a chyfrifiadura. Ers hynny, mae wedi gweithio mewn rolau dadansoddol ac ymchwil ym maes gofal iechyd ac iechyd y cyhoedd.

Mae David bellach yn ddadansoddwr ar gyfer Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru, lle mae’n gweithio gyda rhaglenni lymffoedema a gwasanaethau byrddau iechyd i ddatblygu systemau casglu data, dadansoddi ac adrodd.

Mae Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru yn cynnwys gwasanaethau lymffoedema saith bwrdd iechyd Cymru a thîm cenedlaethol. Gyda'i gilydd maent wedi datblygu llwybrau safonol, dogfennaeth, PROMs, PREMs a setiau data gweithgaredd. Mae'r safoni hwn yn rhoi cyfle i weithio gyda'r gwasanaethau i ddeall sut beth yw da a sut i gyflawni hyn.

Bydd David yn gweithio gyda’r gwasanaethau i gydgynhyrchu dadansoddiadau ac adroddiadau perthnasol, a fydd yn cefnogi eu penderfyniadau. Bydd hefyd yn defnyddio data gwasanaeth a dulliau ansoddol i ddeall y rhwystrau a'r hwyluswyr i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn effeithiol.

“Rwy’n gobeithio y bydd Cymrodoriaeth Bevan yn fy amlygu i syniadau a phrofiadau ymarferol o wella gwasanaethau a chydgynhyrchu gan grŵp amrywiol o bobl. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd y cyfle hwn yn fy helpu i ledaenu ein canfyddiadau yn ehangach i wasanaethau ar draws y GIG.”

Gweld y Diweddariad Diweddaraf
Share