Awdur: Comisiwn Bevan
Cyhoeddwyd: June 14, 2021
Mae'r papur hwn yn edrych yn fanwl ar yr her o fynd i'r afael â'r ôl-groniad o bobl sy'n aros am driniaeth ysbyty.
Ar adeg ysgrifennu hwn, roedd bron i 560,000 yn aros am driniaeth – mae hyn bron yn un o bob chwech o bobl yng Nghymru – ac roedd 217,655 o’r bobl hynny wedi bod yn aros am fwy na 36 wythnos, cynnydd o 192,021 ers mis Chwefror 2020.
Mae’r Comisiwn yn cynnig nifer o gamau gweithredu i oresgyn yr her hon gan gynnwys creu ffyrdd newydd o weithio, gwella effeithlonrwydd ac atebion staffio creadigol. Mae hefyd yn cydnabod na ellir gwneud hyn ar ei ben ei hun. Mae angen i bawb gydweithio, gan rannu cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain ac iechyd y boblogaeth.
Mae’n gwneud tri argymhelliad craidd y mae’n credu fydd yn cael yr effaith fwyaf:
Ymgorffori technoleg sy’n hawdd ei defnyddio mewn gwasanaethau iechyd a gofal o ddydd i ddydd i sicrhau mai dyna’r ffordd ddiofyn y mae cleifion a’r GIG yn rhyngweithio
Trawsnewid Gofal Cleifion Allanol i osgoi ymweliadau diangen ag ysbytai, gwella effeithlonrwydd ac ailgynllunio llwybrau sy’n rhoi cleifion yn y canol ac yn eu cynnwys yn eu penderfyniadau iechyd eu hunain
Creu gallu diagnostig a dewisol arbenigol ledled Cymru drwy sefydlu Canolfannau Arbenigol Rhanbarthol i sicrhau bod arbenigedd ac adnoddau’n cael eu defnyddio i’r eithaf gan gynnwys defnyddio staff arbenigol ac wedi ymddeol a theatrau dros ddiwrnodau estynedig a phenwythnosau
Sylwer: dylid darllen y papur hwn ochr yn ochr â chyhoeddiad Comisiwn Bevan 'Gwneud Pethau'n Wahanol: Cefnogi Datblygiad Gwasanaeth yn y Gymuned'.