Dylanwadwr Clinigol, Carfan 3
Dr. Anna Lewis, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Anadlol a Chyffredinol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae Anna wedi bod yn ymgynghorydd parhaol yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ers 2016. Cwblhaodd ei hyfforddiant israddedig yn Nottingham a gweithiodd yn Lloegr am saith mlynedd cyn cwblhau hyfforddiant arbenigol yng Nghymru.
Mae gan Anna Radd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd a Diploma mewn Meddygaeth a Hylendid Trofannol. Mae hi'n addysgwr achrededig RCP ac yn oruchwyliwr addysgol.
Bu Anna yn flaenorol yn gadeirydd Grŵp Cynghori Clinigol y bwrdd iechyd ac roedd yn aelod cyswllt o'r bwrdd. Cyn hynny roedd yn aelod o Grŵp Cynghori Arbenigol Tybaco Cymdeithas Thorasig Prydain. Ar hyn o bryd, hi yw’r arweinydd clinigol lleol ar gyfer Clefyd Rhyngstitaidd yr Ysgyfaint ac arweinydd clinigol Gwasanaethau Rhoi’r Gorau i Ysmygu’r bwrdd iechyd.
Mae diddordebau proffesiynol Anna yn cynnwys iechyd y cyhoedd a gwella penderfynyddion iechyd i fyny'r afon. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn dulliau o gymell ac ymgysylltu â grwpiau staff yn well, i wella lles staff a darpariaeth gwasanaethau yn hinsawdd bresennol y GIG.




