Dylanwadwr Clinigol, Carfan 2
Dr. Ben Shooter, Seiciatrydd Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Clinigol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Seiciatrydd Ymgynghorol yw Ben a'i brif rôl glinigol yw Clinigydd Cyfrifol ar gyfer yr Uned Cleifion Mewnol Oedolion a Thîm Argyfwng De Powys. Ochr yn ochr â hyn, am y chwe blynedd diwethaf, mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Clinigol ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mhowys. Mae'r rolau arwain prysur hyn yn galluogi Ben i ymwneud yn uniongyrchol â datblygu gwasanaethau ym Mhowys sydd ar hyn o bryd yn cynnal prosiect trawsnewid, y mae Ben yn ceisio dylanwadu ar ei gyfeiriad, yn enwedig o ran recriwtio a chadw meddygol.




