Dylanwadwr Clinigol, Carfan 3
Dr. Georgina Forbes, Meddyg Arbenigol mewn Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae Georgina wedi bod yn feddyg arbenigol mewn gofal iechyd rhywiol ac atgenhedlol (SRH) ers 2021, gyda chefndir o weithio mewn gwahanol agweddau ar ofal iechyd menywod ers 2011. Mae ei rôl yn cynnwys atal cenhedlu, menopos, erthyliad a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Sefydlodd Georgina wasanaeth atal cenhedlu meddygol cymhleth yn Aneurin Bevan yn 2022. Hi yw arweinydd diogelu SRH yn Aneurin Bevan ac mae'n hyfforddwr cofrestredig i'r FSRH ac yn Oruchwyliwr Addysgol ar gyfer hyfforddeion CSRH.
Cyd-sefydlodd rwydwaith atal cenhedlu ôl-enedigol Cymru yn 2023 ar ôl nodi bwlch mewn darpariaeth gyson ledled Cymru. Mae'r rhwydwaith wedi gallu cyfrannu at gynllun iechyd menywod Cymru i wneud atal cenhedlu ôl-enedigol yn nod cenedlaethol.
Mae diddordebau proffesiynol Georgina yn cynnwys:
Gwella mynediad at ddulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hir-weithredol
Addysg a hyfforddiant
Dull atal cenhedlu meddygol cymhleth
Dull atal cenhedlu ar ôl beichiogrwydd
Cefnogi meddygon SAS i ddatblygu eu gyrfaoedd ac ymgymryd â rolau arwain




