Dr. Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dr. Giri Shankar, MD, DNB, MPH, FFPH, MBE, yw Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, y DU. Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru.
Mae'r Is-adran Diogelu Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i amddiffyn unigolion a chymunedau rhag niwed a achosir gan beryglon heintus a rhai nad ydynt yn heintus. Mae hefyd yn darparu ymateb effeithiol i argyfyngau trwy gynllunio a pharatoadau cadarn gydag ymatebwyr Categori 1 a Chategori 2 eraill fel y'u diffinnir yn Neddf Argyfyngau Sifil 2004, gan gynnwys ymatebwyr cyntaf, awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd amgylcheddol a phorthladdoedd, byrddau iechyd ac asiantaethau eraill yng Nghymru a chyda phartneriaid ledled y DU.
Mae Dr. Shankar yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau Diogelu Iechyd ledled Cymru. Mae'n darparu arweinyddiaeth i dîm o dros 230 o staff o fewn yr Adran.
Mae gan Dr. Shankar 27 mlynedd o brofiad ym maes rheoli clefydau heintus ac iechyd y cyhoedd. Cafodd ei radd feddygol israddedig (MBBS) o Brifysgol Bangalore, India ac yna MD mewn Meddygaeth Gymunedol (gyda rhagoriaeth – Safle Cyntaf), a Diplomate y Bwrdd Cenedlaethol (DNB) mewn Meddygaeth Gymdeithasol ac Ataliol. Yna symudodd i'r Deyrnas Unedig a chafodd hyfforddiant arbenigol uwch pellach mewn Iechyd Cyhoeddus trwy gwblhau rhaglen Meistr ym Mhrifysgol Birmingham.
Mae Dr. Shankar wedi derbyn Cymrodoriaeth Cyfadran Iechyd Cyhoeddus Coleg Brenhinol y Meddygon.
Dr. Shankar yw Cadeirydd Pwyllgor Thematig IANPHI ar Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyhoedd.
Mae diddordebau arbennig Dr. Shankar mewn ymchwil a gwerthuso, lle mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau gwyddonol mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid.




