Cymrawd Bevan
Gyda 10 mlynedd o brofiad fel meddyg teulu, mae gan Laura nifer o rolau sy'n canolbwyntio ar gefnogi datblygiad proffesiynol eraill.
Hi yw cyfarwyddwr rhaglen y Rhaglen 3D - cwrs arweinyddiaeth sy'n grymuso gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ysgogi newid yn eu lleoliad. Mae hi wedi bod yn arfarnwr meddyg teulu ers 7 mlynedd. Mae hi hefyd yn gweithio yn y tîm cynaliadwyedd gofal sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Yn draddodiadol, mae addysg datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) meddygon teulu wedi'i chynllunio i gynyddu gwybodaeth meddygon teulu am bwnc clinigol penodol.
Mae model DPP newydd yn cael ei dreialu lle mae meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol o'r un practis yn mynychu gweithdai gyda'i gilydd i gynyddu eu gwybodaeth a gwella gwasanaethau cleifion yn eu practis.
Amcanion prosiect Laura yw:
- Datblygu fframwaith ar gyfer gweithdai DPP sy'n canolbwyntio ar wella gwasanaethau cleifion, yn ogystal â gwella gwybodaeth clinigwyr.
- Gwerthuso effaith y gweithdai hyn ar wasanaethau cleifion, gwaith tîm amlbroffesiynol a boddhad swydd.
“Rwy’n gobeithio cyfrannu at ymchwil sy’n gwella gofal cleifion. Rwy’n gobeithio datblygu fy sgiliau mewn arweinyddiaeth, cyfathrebu, dadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau.
Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio a dysgu gan gymheiriaid a mentoriaid.”




