Dylanwadwr Clinigol, Carfan 2

Dr. Nia Humphry, Geriatregydd Amlawdriniaethol Ymgynghorol, Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Value

Mae Dr. Humphry yn Geriatregydd Amlawdriniaethol Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Sefydlodd y gwasanaeth POPS (Gofal Amlawdriniaethol Pobl Hŷn sy’n cael Llawdriniaeth) yno yn 2020, gyda’r nod o wella gofal cleifion sy’n byw gydag eiddilwch ac sy’n cael llawdriniaethau brys a dewisol.

Ochr yn ochr â gwaith clinigol mae Nia yn Uwch Ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cyflwyno elfennau o'r MSc mewn Geriatreg Glinigol ac yn goruchwylio myfyrwyr sy'n cwblhau astudiaethau ôl-raddedig yn ymwneud â gofal amlawdriniaethol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys effaith sarcopenia a maeth ar ganlyniadau amlawdriniaethol.

Nia yw Dirprwy Gadeirydd presennol Grŵp Diddordeb Arbenigol POPS Cymdeithas Geriatreg Prydain ac mae’n ymdrechu i gefnogi datblygiad gwasanaethau POPS yn genedlaethol, yn ogystal ag yn lleol yn Ne Cymru.

Share