Dylanwadwr Clinigol, Carfan 3

Dr. Rahul Dalal, Cofrestrydd Meddygon Teulu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae Dr. Rahul Dalal, yn Gofrestrydd Meddygon Teulu yng Ngwent. Mae'n dilyn MSc mewn Gwybodeg Iechyd ochr yn ochr â'i waith clinigol. Mae Rahul yn eistedd ar Bwyllgor Meddygol Cymru, y Felin Drafod dan Hyfforddiant, ac mae'n gweithio gydag AaGIC i wella 'ymgysylltu â hyfforddeion'.

Mae gan Rahul ddiddordeb mewn iechyd digidol a thrawsnewid, yn enwedig y ffyrdd y gall wella bywydau gwaith staff rheng flaen y GIG, a thrwy hynny wella’r gofal cyffredinol a ddarperir. Yn benodol, mae ganddo ddiddordeb mewn cymhwyso theori digidol a systemau i lifoedd gwaith a phrosesau clinigol.

Ar hyn o bryd mae'n ymwneud â chapasiti clinigol gyda'r tîm Digidol a Data yn Aneurin Bevan. Mae’r tîm yn gweithredu porth digidol ar gyfer llythyrau apwyntiad cleifion a fydd yn gwella hygyrchedd, yn fwy ecogyfeillgar, ac yn lleihau costau i’r Bwrdd Iechyd. “Rwy’n dysgu llawer trwy arsylwi a chymryd rhan!”

Share