Dylanwadwr Clinigol, Carfan 3
Dr. Richard Marsh, Geriatregydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Mae Richard yn gweithio ar draws dau ysbyty fel Geriatregydd Ymgynghorol gyda sesiynau ward cleifion mewnol a sesiynau yn ymwneud â meddygaeth geriatrig drws ffrynt ac osgoi derbyniadau.
Mae'n Gyd-Gyfarwyddwr Clinigol mewn meddygaeth geriatrig, gan arwain a darparu gwasanaethau sy'n ymwneud â gofal meddygol i gleifion hŷn. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Clinigol ar gyfer UHL gyda rôl uwch arwain yn yr ysbyty sy'n ysgogi gwelliant a newid gwasanaeth yn ymwneud â gwasanaethau meddygol.
Mae ei ddiddordebau yn cynnwys:
Llesgedd acíwt
Meddygaeth geriatreg
Gofal canolraddol
Mae gwaith Richard yn ymwneud â datblygu UHL:
1. Gwelliannau i wasanaethau drws ffrynt gyda gwell integreiddio â gwasanaethau yn y gymuned, gofal acíwt i bobl hŷn, meddygaeth acíwt a meddygaeth anadlol.
2. Gwell llwybrau rhwng Ysbyty Athrofaol Cymru a YALl er mwyn gwella ansawdd gofal cleifion, lleihau amser yn yr ysbyty a gwella llif cleifion.
3. Cydweithio â gwasanaethau yn y gymuned i greu llwybrau adsefydlu wedi'u diffinio'n glir a gwasanaethau osgoi derbyniadau.




