Dr. Sikha de Souza, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus gyda'r Adran Sgrinio, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Dr. Sikha de Souza yn gweithio fel Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus gydag Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hi'n arwain ar Ansawdd ar gyfer yr adran ac yn darparu arweinyddiaeth iechyd cyhoeddus ar gyfer rhaglenni Sgrinio Cenedlaethol Mamau a Phlant.
Yn ei rôl fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Iechyd Cyhoeddus, mae ei phortffolio yn canolbwyntio ar Lywodraethu Clinigol ac Ansawdd.
Mae diddordebau proffesiynol Sika yn cynnwys:
- Ansawdd a Systemau Rheoli Ansawdd
- Tegwch a Hygyrchedd
- Diwylliant Sefydliadol
- Cynllunio a hailgynllunio'r gweithlu
- Moeseg Iechyd Cyhoeddus
Ar hyn o bryd mae Sikha yng nghyfnodau cynnar y gwaith o archwilio datblygiad egwyddorion Moeseg Iechyd Cyhoeddus sy'n berthnasol i'n cyd-destun yng Nghymru, er mwyn cefnogi gwneud penderfyniadau strategol.




