Dylanwadwr Clinigol, Carfan 3

Torsten Hildebrandt, Pediatregydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cwblhaodd Dr. Torsten Hildebrandt ei hyfforddiant pediatrig ôl-raddedig yn yr Almaen a'r DU. Mae wedi bod yn Bediatregydd Cyffredinol Ymgynghorol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ers 2006.

Mae gan Torsten raddau ôl-raddedig mewn Gofal Lliniarol Pediatrig, Arweinyddiaeth Feddygol, Genomeg a Chlefydau Prin. Mae wedi cael rolau arweinyddiaeth glinigol ac addysgol amrywiol o fewn y GIG ac AaGIC.

Mae diddordebau proffesiynol Torsten yn cynnwys:

Integreiddio Genomeg i Bediatreg Cyffredinol prif ffrwd

Clefyd Prin Pediatrig

Trosglwyddo Cleifion Pediatrig cymhleth i wasanaethau a arweinir gan oedolion

Arweiniodd Torsten Brosiect Enghreifftiol Bevan yn 2023-24, gan sefydlu clinig pwrpasol ar gyfer cleifion pediatrig â chyflyrau prin. Ar hyn o bryd mae'n rhan o Dîm Prosiect Enghreifftiol Bevan sy'n gwella'r broses o drosglwyddo pobl ifanc i ofal oedolion.

Share