Uwch Gymrawd Bevan

Mae Dr Elizabeth Davies yn Geriatregydd Ymgynghorol ac yn Gyfarwyddwr Clinigol Gofal yr Henoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae hi wedi ymroi ei gyrfa fel ymgynghorydd i ddatblygu gwasanaethau arloesol ar gyfer pobl hŷn sy’n byw gydag eiddilwch gyda ffocws penodol ar wella llwybrau gofal mewn Meddygaeth Acíwt, yr Adran Achosion Brys ac yn fwy diweddar, mewn lleoliadau cymunedol.

Fel rhan o’i Chymrodoriaeth Comisiwn Bevan, mae Liz yn arwain prosiect trawsnewidiol i sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau eiddilwch. Mae’r fenter hon, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â phartneriaid mewn Gofal Sylfaenol Brys a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, wedi’i chanoli o fewn Hyb Cydgysylltu Gofal Integredig. Ei nod yw darparu mynediad cyflymach a di-dor at wasanaethau eiddilwch arbenigol a gofal yn y gymuned, gan gynnig dewis diogel ac effeithiol yn lle derbyniadau i’r ysbyty.

Mae angen cydweithredu cryf ar draws ffiniau rhanbarthol, proffesiynol a sefydliadol, yn enwedig ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau arloesi sy’n cael effaith ar bobl hŷn sy’n byw’n eiddil. Mae Liz wedi ymrwymo i feithrin y partneriaethau hyn ac mae’n awyddus i drosoli’r cyfoeth o brofiad, arbenigedd a mentoriaeth o fewn rhwydwaith Comisiwn Bevan i fireinio ac ehangu canlyniadau ei gwaith.

Share