Ymchwil, Cefnogi Rhaglenni ac Ymgynghori

Newid trawsffurfiol er iechyd a gofal gwell

Mae’r ymateb i Covid-19 wedi datgelu cyfle gwych i gyflawni newid trawsffurfiol ar draws y GIG yng Nghymru. Yn deillio o argyfwng, rydym wedi gweld rhai syniadau gwych a datrysiadau i nifer o’r heriau yr ydym yn eu hwynebu gyda’n gilydd yng Nghymru. Rhaid i ni fanteisio’n llawn ar hyn a chynnal a gweithredu’r newidiadau trawsffurfiol hyn ar gyfer y dyfodol.

Fel sefydliadau, byddwch yn awyddus i ddal eich gafael ar yr enillion yr ydych wedi’u gwneud a dysgu gan eraill er mwyn parhau i ddatblygu ac ail-lywio eich gwasanaethau – mae newidiadau a oedd yn ymddangos yn amhosibl pum mis yn ôl wedi’u gwireddu.

Dros y rhai blynyddoedd diwethaf, nid yn unig mae Comisiwn Bevan wedi sefydlu ei ffordd newydd o feddwl a’i her i’r system, ond mae hefyd wedi manteisio ar ei arbenigedd i gynorthwyo gyda chyflawni newid trawsffurfiol ar waith.

Rydym wedi bod yn ‘gyfaill beirniadol’ i nifer, gan ddarparu gwasanaethau ymgynghori unigryw i sefydliadau megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Bro Morgannwg Abertawe (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bellach), Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Chydweithfa Iechyd GIG Cymru ymhlith eraill.

Mae ein profiad, ein harbenigedd, a’n credadwyaeth a’n hawdurdod o ran newid trawsffurfiol yn helaeth. Am ragor o fanylion, anfonwch e-bost i Bevan-Commission@swansea.ac.uk am ragor o wybodaeth ynghylch sut allwn gynnig gwasanaeth ymgynghori a chefnogaeth i’ch sefydliad yn y cyfnod hwn.

Rhaglenni wedi'u comisiynu

quotation icon

Mae gweithio gyda Comisiwn Bevan wedi ein galluogi ni i elwa o’u harbenigedd ar gyfer darn o waith penodol, ond maent hefyd wedi ein cefnogi ni i gymryd cam yn ôl a myfyrio ar ein hagwedd at ymgysylltu a thrawsffurfio yn ei hanfod. Maent wedi bod yn gyfaill beirniadol a byddwn yn sefydliad cyfoethocach am eu cymorth a’u cyngor.

Arweinydd iechyd a gofal yn gweithio gyda Comisiwn Bevan ar gyfer eu Gweithdai Trawsffurfio, 2021.