Dr David Burberry
Dr Karina James
Dr Duncan Soppitt
Dr Greg Taylor
Dr Jugdeep Dhesi
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cefndir
Mae gennym boblogaeth gynyddol sy’n heneiddio, ynghyd â niferoedd cynyddol o gleifion yn aros am lawdriniaethau am gyfnodau hwy o amser. Mae cleifion hŷn ac eiddil yn fwy cymhleth ac yn gysylltiedig â chyfnodau hirach o aros a chanlyniadau gwaeth ar ôl llawdriniaeth, gan wneud y gallu i brosesu’r rhestr aros sy’n cynyddu o hyd yn anoddach.
Nod
Gwyddom fod ymyrraeth gynnar gan geriatregwyr yn gwella canlyniadau, gyda llai o gymhlethdodau ôl-lawdriniaethol a chanlyniadau gwell i gleifion, a chyda gwell defnydd o wasanaethau. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod pwy fydd yn elwa.
Amcanion
- Asesu'r galw am wasanaethau geriatrig amlawdriniaethol
- Asesu cost a budd y gwasanaeth
- Nodi offeryn sgrinio y gellir ei ddefnyddio'n electronig i nodi cleifion a fyddai'n elwa o adolygiad geriatrig
- Mapio manteision ychwanegol o ran gwella gofal cleifion
- Datblygu'r gwasanaeth gyda chynnwys ac adborth cadarn gan gleifion
Y Dull
- Anfon holiadur ysgrifenedig at bob (256) o gleifion dros 65 oed ar y rhestr colecystectomi laparosgopig (LC)
- Cyswllt ffôn i wneud sgôr risg eiddilwch clinigol, sgôr risg eiddilwch ysbyty a holiadur CRANE
- Trafodaeth tîm amlddisgyblaethol i benderfynu a fyddai'r claf yn elwa o adolygiad clinigol
Canlyniad / Manteision
- Gostyngiad ar restr aros
- 15% o gleifion dros 65 oed wedi'u tynnu oddi ar restr LC
- 40% o gleifion a welwyd yn y clinig torgest wedi'u tynnu oddi ar y rhestr
- £250,000 o arbedion LC/osgoi costau
- Gofal sy'n canolbwyntio ar y claf gydag adborth rhagorol
- Cleifion wedi'u hoptimeiddio'n feddygol
- Llai o atgyfeiriadau arbenigol sengl
- Gostyngiad mewn cost meddyginiaethau
- Yn cefnogi sgrinio rhestrau aros