Skip i'r prif gynnwys

Uwch Gymrawd Bevan

Mae Kathrin yn Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac yn Feddyg Teulu wedi ymddeol. Mae ei diddordebau proffesiynol mewn gofal sylfaenol ac integreiddio iechyd y cyhoedd, anghydraddoldebau iechyd a hyfforddi/mentora.

Mae ei Chymrodoriaeth Bevan yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o gyfraniad y sector iechyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Trwy ei Chymrodoriaeth, mae Kathrin yn bwriadu sefydlu cymuned ymarfer ar gyfer gweithwyr iechyd ar lawr gwlad, gydag adnodd addysgol ac ymchwil. Gallai’r gymuned hon feithrin cysylltiadau cryfach â phartneriaid eraill sy’n dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd, ac estyn allan i’r gymuned ymchwil i gynyddu gallu a sgiliau ymchwil tegwch iechyd yng Nghymru.