Mae Addewid Lleihau Gwastraff Gyda’n Gilydd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwarae rhan weithredol yn lleihau gwastraff yn y sector iechyd a gofal yng Nghymru. Drwy lofnodi’r addewid, byddwch yn ymuno ag eraill wrth ffurfio rhwydwaith cydweithredol Lleihau Gwastraff Gyda’n Gilydd (LGGG). Bydd hyn yn darparu llwyfan cenedlaethol i rannu syniadau, arfer da a chydweithio i ddatblygu datrysiadau lleihau gwastraff.
Sut allwn ni leihau gwastraff ar bob ffurf ledled y sector iechyd a gofal cymdeithasol? Mae’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail yn wyneb pandemig Covid-19, argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd byd-eang. Mewn ymateb, mae’n rhaid inni ddatblygu ffyrdd arloesol o ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael yn fwy effeithlon. Mae lleihau gwastraff yn agwedd ganolog ar Gynllun Datgarboneiddio Llywodraeth Cymru i gyflawni sector cyhoeddus sero net erbyn 2030.
Bydd y rhaglen Peidio Gwastraffu yn canolbwyntio ar dair brif agwedd i helpu i sicrhau’r newidiadau angenrheidiol, gan gynnwys:
Bydd y rhaglen yn torri tir newydd ac yn iteraidd i sicrhau ein bod yn rhannu arferion da presennol ac yn adeiladu ar syniadau arloesol wrth iddynt ddatblygu. Bydd yn cynnig ffocws ac ymdrech go iawn i ymgysylltu â phobl yn eu cymunedau a’u gweithleoedd, i gyflawni gostyngiadau sylweddol mewn gwastraff. Bydd hefyd yn creu rhwydwaith o weithgorau yng Nghymru ac yn defnyddio syniadau arloesol Enghreifftiol Bevan, er mwyn sbarduno symudiad ehangach ar gyfer newid ar draws systemau a gwasanaethau iechyd a gofal.
Ar 19 Ebrill 2023, ymunodd 220 o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal â ni ledled Cymru i lansio’r rhaglen hon. Ymunodd siaradwyr gwych â ni gan gynnwys y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yr Athro Syr Don Berwick, yr Athro Syr Andy Haines a Richard Smith. Gweler cyflwyniadau’r siaradwyr isod.