Dylanwadwr Clinigol, Carfan 2
Mr Vaseekaran Sivarajasingam, Athro Llawfeddygaeth y Geg a Llawfeddyg y Geg Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Clinigol Ysbyty Deintyddol Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Fel Cyfarwyddwr Clinigol Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, mae Vas yn goruchwylio cynllunio strategol a gweithredu gwasanaethau deintyddol cynhwysfawr ar gyfer Caerdydd a’r Fro. Menter nodedig a arweiniodd yw’r Gwasanaeth Llawfeddygaeth y Geg Ganolradd, rhaglen lwyddiannus yn y gymuned sy’n cyd-fynd ag amcanion byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru o wella gwasanaethau gofal sylfaenol a darparu gofal yn nes at gartrefi pobl.
Yn ogystal, mae Vas yn arwain gwaith Enghreifftiol Bevan – Datblygu a Darparu Gwasanaethau Tawelydd Deintyddol a Chanolfan Hyfforddi, gan feithrin cydweithrediad rhwng gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol ac eilaidd. Drwy gydol y datblygiadau hyn, y flaenoriaeth bennaf o hyd yw diogelwch cleifion, ansawdd gofal, a chyflawni canlyniadau clinigol cadarnhaol trwy gydgynhyrchu gwasanaeth cynhwysol sy'n cynnwys yr holl randdeiliaid.




