Straeon personol, trafodaethau craff ac arbenigedd cyffredin oedd uchafbwyntiau ein Dosbarth Meistr Bevan: Sgwrs gyda’r Athro Don Berwick.
Ffocws y Dosbarth Meistr oedd archwilio sut all cyd-gynhyrchu helpu i wella ansawdd iechyd a gofal darbodus, a’u trawsnewid.
Aeth yr Athro Berwick, Llywydd Emeritws a Chymrawd yr Institute of Healthcare Improvement yn yr UDA, ati i rannu ei arbenigedd, straeon personol a safbwyntiau ynghylch yr angen am ofal sy’n canolbwyntio fwy ar gleifion.
Ei brif gwestiynau ar gyfer y ddadl oedd ‘pa mor aml ydym ni’n gofyn beth sy’n bod gyda chi yn hytrach na beth sy’n bwysig i chi?’ a ‘pha mor bell allwn ni fynd er mwyn cynnwys cleifion a theuluoedd yn eu gofal a’u triniaeth?’
Dywedodd yr Athro Berwick, “Mae system sydd wedi’i sefydlu ar gyd-cynhyrchu, mewn perthynas â pherthnasoedd, beth sy’n bwysig i chi yn mynd i fod yn wahanol i’r system yr ydym ni wedi’i hetifeddu.
“Mae’n daith hynod gyffrous a rhaid i ni ganolbwyntio ar gyflawni’r pedwar nod; gofal gwell ar gyfer unigolion, iechyd gwell ar gyfer poblogaethau, costau is a mwynhad yn y gwaith.
“Yr unig ffordd yno yw drwy fagu perthnasoedd, drwy’r math o agwedd, parch a chyfnewid sy’n dod law yn llaw â chyd-gynhyrchu.
“Rwy’n rhagweld y bydd Cymru, ymhlith nifer o wledydd yn y byd, yn wlad lle mae’r tir yn ffrwythlon dros ben mewn perthynas â’r math hwnnw o system gofal iechyd.”
Y Dosbarth Meistr oedd y cyntaf mewn cyfres wedi’i threfnu gan y Comisiwn Bevan, sef melin drafod flaenllaw Cymru o ran iechyd a gofal.
Bydd y nesaf yn cael ei gynnal fis Ionawr 2020 a bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Comisiwn Bevan, Helen Howson, “Roedd hi’n wych gweld cynulleidfa mor amrywiol o bob lefel o iechyd a gofal yn y Dosbarth Meistr hwn.
“Hoffwn ddiolch i bawb, nid yn unig am roi o’u prynhawn Sul, ond am rannu eu straeon personol a’u dealltwriaeth am sut mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i gyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio ein systemau i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein poblogaeth.
“Rydym yn ffodus y gallwn weithio mor agos â’n Comisiynydd Bevan Rhyngwladol, yr Athro Berwick ac yn ddiolchgar ei fod wedi ymdrechu i rannu ei arbenigedd gyda ni eto yng Nghymru.”
Os nad oeddech chi’n bresennol yn y digwyddiad, gallwch wylio’r fideo isod i weld yr Athro Don Berwick yn trafod cyd-gynhyrchu.
Bywgraffiad yr Athro Don Berwick
Mae’r Athro Berwick yn gyn-gynghorydd Barack Obama a gweinyddwr y Centers for Medicare and Medicaid Services (yr asiant ffederal sy’n goruchwylio Medicare a Medicaid). Mae wedi gwasanaethu ar gyfadrannau Ysgol Feddygol Harvard ac Ysgol Iechyd Cyhoeddus Harvard.
Yn 2013, cynhaliodd adolygiad o ddiogelwch cleifion yn y GIG ar ran y Prif Weinidog David Cameron. Ac yntau’n cael ei gydnabod yn arweinydd blaenllaw o ran ansawdd a gwella gofal iechyd, mae Dr. Berwick wedi cael sawl gwobr am ei gyfraniadau. Yn 2005, penodwyd ef yn “Farchoglywydd Anrhydeddus yr Ymerodraeth Brydeinig” gan Ei Mawrhydi, Brenhines Elizabeth II, mewn cydnabyddiaeth o’i gwaith gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prydain. Dr. Berwick yw awdur neu gyd-awdur dros 160 o erthyglau gwyddonol a chwe chyfrol. Ar hyn o bryd mae’n Ddarlithydd yn Adran Polisi Gofal Iechyd Ysgol Feddygol Harvard.
Yn chwilio...
Yn anffodus, does dim byd yn cyfateb i’ch termau chwilio.