Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awdur: Comisiwn Bevan

Cyhoeddwyd: Chwefror 08, 2023

Ni fu erioed yn bwysicach ymgysylltu pobl â’u hiechyd a’u gofal eu hunain. Mae’r cysyniad sylfaenol o Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd (PPE) yn annog cleifion a’r cyhoedd i ddeall yn well eu rôl fel cyfranogwyr gweithredol yn eu hiechyd a’u gofal eu hunain, sydd wedi’i atgyfnerthu’n ddiweddar gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar ôl y pandemig rydym yn wynebu dwy her, sef rhestrau aros hirach a galw cynyddol am wasanaethau ochr yn ochr â chaledi. Mae angen i ni ddefnyddio mewnwelediadau PPE da i gefnogi gweithgareddau gwella ac ailgynllunio gwasanaethau, yn ogystal â helpu pobl i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain. Ceir rhai enghreifftiau da o ymgysylltu, ond nid ydym yn gweld y rhain yn cael eu cymhwyso’n gyson ledled Cymru. Mae angen rhoi sylw brys i’r her o sicrhau cydgynhyrchu gwirioneddol ac ymgysylltu o ansawdd uchel ar draws iechyd a gofal er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i wella profiad cleifion.