Er bod yr egwyddorion sylfaenol y sefydlwyd y GIG arnynt yn aros yr un fath, mae ein cymdeithas wedi newid, mae ein hanghenion unigol wedi newid, ac mae technoleg wedi datblygu. Ar yr un pryd, mae'r pandemig COVID-19 wedi ymestyn ein gwasanaethau iechyd a gofal i'r brig. Mae’r ymateb i’r pandemig ac i’r argyfwng hinsawdd parhaus yn ysgogi newid digynsail yn y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio yn ein trefi, ein dinasoedd a’n cymunedau gwledig.
Papur ar y cyd rhwng ARUP a Chomisiwn Bevan.