Mae’r Athro Trevor Jones yn gyn-Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu gyda Sefydliad Wellcome, yn Gyfarwyddwr Allergan Inc, Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI), yn gynghorydd i Lywodraethau’r DU a’r UE. Mae’r Athro Jones yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei weithgareddau ym maes ymchwil glinigol a darganfod a datblygu cyffuriau yn y diwydiant fferyllol. Mae wedi gwasanaethu ar lawer o Bwyllgorau gan gynnwys Comisiwn Meddyginiaethau Llywodraeth y DU. Cadeirydd Bwrdd Cynghori Geneteg y DU, Cyngor Coleg y Brenin, Llundain ac fel Comisiynydd yn Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).




