Yng ngoleuni'r heriau a wynebir yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Comisiwn Bevan wedi cynnal cyfres o sgyrsiau cyhoeddus ym mhob ardal Bwrdd Iechyd Cymru, gyda chefnogaeth Llais, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG.
Mae Cam Un o’r gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau, ac roedd yn cynnwys arolwg a digwyddiad ar-lein, yn siarad ag aelodau o’r cyhoedd ar strydoedd Wrecsam, Abertawe a Phontypridd yn ogystal â sgyrsiau arddull ‘neuadd y dref’ yn Llandudno, Aberhonddu, Caerfyrddin, Trecelyn, Y Barri, Abertawe/Castell-nedd Port Talbot, a Merthyr Tudful.
Yn ystod y digwyddiadau hyn, buom yn siarad am yr heriau y mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, a thrafodwyd sut y gellid gwella a chynnal pethau yn y dyfodol gyda’r mynychwyr.
Gallwch weld ein hadroddiad o Gam Un y rhaglen hon ewch yma.
Gweler pyt o'n sgyrsiau ar strydoedd Cymru isod.