Dyn mewn siwmper ddu â gwddf crwn arni yn gwisgo gorchudd wyneb. Dyn mewn siwmper ddu â gwddf crwn arni yn gwisgo gorchudd wyneb.

Sbotolau: Covid-19

The Bevan Commission's response

We live in unprecedented times and Covid–19 is affecting lives locally, nationally, and globally. The Bevan Commission has utilised the expertise it has available through its Bevan Commissioners, Bevan Advocates, Bevan Exemplars and Bevan Fellows, to best effect for people in Wales and wider afield. We will continue to observe, analyse, interpret and comment on the situation with a view to securing a better way forward and a vision fit for the future. As part of this work we have produced a series of opinion pieces addressing a range of relevant Covid-19 issues as well as capturing the experiences of people, new learning and other opportunities as they evolve.

Rydym yn byw mewn cyfnod heb ei debyg ac mae Covid-19 yn effeithio ar fywydau yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Mae’r Comisiwn Bevan wedi gwneud y defnydd gorau o’r arbenigedd sydd ar gael iddo drwy ei Gomisiynwyr Bevan, Eiriolwyr Bevan, Esiamplwyr Bevan a Chymrodorion Bevan, er budd pobl yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn yn parhau i arsylwi, dadansoddi, dehongli a rhoi sylw ar y sefyllfa gyda golwg ar sicrhau ffordd ymlaen well a gweledigaeth sy’n addas at y dyfodol. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi cynhyrchu cyfres o ddarnau barn yn mynd i’r afael â materion perthnasol Covid-19 yn ogystal â chasglu profiadau pobl, dysg newydd a chyfleoedd eraill wrth iddynt ddod i’r amlwg.

In Place Of Fear

Mae ein Datganiad Tyst In Place of Fear – Forging a Sustainable Recovery (Better Future) ar gyfer Iechyd a Gofal yng Nghymru yn sefydlu sut fyddwn yn dysgu gan yr heriau a’r cyfleoedd sydd wedi’u creu gan bandemig Covid-19, ac yn ymateb iddynt.

Gofal Iechyd Darbodus a Covid-19

Gwyliwch y Comisiynydd Bevan, yr Athro Don Berwick, yn trafod sut mae egwyddorion gofal iechyd darbodus helpu GIG Cymru i adfer ar ôl y pandemig coronafeirws a’i helpu i ddod yn ôl ar ei draed.

Gwneud Pethau'n Wahanol

I ymateb i bandemig Covid-19, mae Comisiwn Bevan wedi ymgymryd â chyfres o ddigwyddiadau panel i drafod a myfyrio ar y penderfyniadau a fydd angen eu gwneud ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddi barhau i ymateb i Covid-19, ac adfer wedi Covid-19, ac ail ganolbwyntio.

Digwyddiadau

Rheoli iechyd meddwl yn y gweithle

Roedd y digwyddiad hwn yn cefnogi rheolwyr, cydweithwyr AD a chyflogwyr i bwysleisio’r materion cyfredol yn ymwneud ag iechyd meddwl yn y gweithle a chynnig cyflwyniadau arbenigol ynghylch theori ac ymarfer iechyd meddwl yn y gweithle yng nghanol Covid-19.

Dychwelyd i’r gwaith

Cynhaliodd Comisiwn Bevan seminar ar-lein gyda’r Gymdeithas Meddyginiaeth Alwedigaethol, cyn lansio pecyn cymorth newydd i hyrwyddo arfer orau mewn dychwelyd i’r gwaith wedi cyfnod clo Covid-19.

Yn dilyn llwyddiant y seminar ar-lein cyntaf dychwelyd i’r gwaith, cynhaliodd Comisiwn Bevan ddigwyddiad dilynol wedi’i gefnogi gan y Gymdeithas Meddyginiaeth Alwedigaethol ddydd Llun 1 Mehefin 2020. Roedd y seminar wedi’i anelu at gefnogi sefydliadau yng Nghymru i baratoi at ddychwelyd i’r gwaith wedi cyfnod clo Covid-19.

Macbook pro yn dangos grŵp o bobl