Eiriolwyr Bevan
Dod yn Eiriolwr Bevan
Os byddwch yn ymuno â ni, gallwch gynorthwyo i ddylanwadu ar bolisïau ac ymarfer iechyd a gofal, rhannu’ch safbwyntiau mewn blogiau a ffilmiau a cheisio syniadau eich teulu, eich cyfeillion a’ch cymunedau. Yn gyfnewid am hynny, rydym yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a gweithdai hyfforddiant, ynghyd â digwyddiadau rhwydweithio.
Sut i ddod yn Eiriolwr Bevan
Cysylltwch â ni drwy bevan-commission@swansea.ac.uk. Gallwch drafod eich syniadau, cyflwyno unrhyw ymholiadau sydd gennych chi o bosibl a chanfod a yw’r cynllun yn addas i chi. Pan fyddwch yn fodlon, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at y Comisiwn Bevan.
Pa fath o bethau mae Eiriolwyr Bevan yn eu gwneud?
- Siarad â phobl yn eu cymuned ynghylch iechyd a gofal
- Casglu a rhannu gwybodaeth ynghylch gofal iechyd darbodus
- Cynorthwyo i ddylanwadu ar weithredoedd ac ymddygiadau, a bod yn sail iddynt
- Dysgu am safbwyntiau, profiadau a syniadau pobl eraill ynghylch gofal iechyd
- Casglu profiadau a straeon gan ddefnyddio sawl ffurf i’w rhannu â Comisiwn Bevan ac eraill
- Cyflwyno i amrywiaeth o grwpiau a rhwydweithiau
Darparu cyfraniad y cyhoedd at y Comisiwn Bevan, a’i waith
- Ysgrifennu darnau yn sefydlu barn ar gyfer gwefan Comisiwn Bevan – darllen y rhain gan Sylvia, Barbara a Jules
- Rhoi sylwadau ar ddogfennau Comisiwn Bevan
- Rhoi sylwadau ar ddogfennau polisi ac adroddiadau allanol i gyfrannu at ymateb Comisiwn Bevan
- Mynychu grwpiau ffocws
- Cynnig datrysiadau a syniadau arloesol
Rhwydweithio gydag eraill
- Cwrdd â grŵp o Eiriolwyr Bevan i rannu syniadau
- Cwrdd â staff y GIG ac eraill yn nigwyddiadau academi Comisiwn Bevan
Yr hyn sydd ar gael i Eiriolwyr Bevan fel rhan o’r cynllun
Bydd Eiriolwyr Bevan yn gallu datblygu:
- Cysylltiadau â chymunedau a grwpiau
- Sgiliau gwrando a sgiliau cyfathrebu eraill
- Dealltwriaeth am brofiadau o ofal iechyd
- Syniadau ar gyfer gwella gwasanaethau gofal iechyd lleol
Mae cyfleoedd ar gyfer Eiriolwyr Bevan yn cynnwys:
- Cysylltu ag ystod o bobl sydd â diddordebau cyffelyb
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a gweithdai lleol
- Mynychu digwyddiadau a chynadleddau rhanbarthol a chenedlaethol