Gwneud Pethau’n Wahanol
Beth a wnewch chi’n wahanol?
Dyma’r cwestiwn y mae’r Comisiwn wedi bod yn ei ofyn i amrywiaeth o bobl ledled Cymru fel rhan o raglen waith bwysig sy’n ystyried y dewisiadau anodd y bydd gofyn i iechyd a gofal yng Nghymru eu gwneud yn y dyfodol wrth i’r wlad barhau i ymateb i Covid-19, ac adfer ac ail-ffocysu wedi’r pandemig.
Gwyddom o waith ymchwil manwl yr ydym wedi’i wneud bod heriau enfawr yn y dyfodol, gan gynnwys cynnydd mewn amseroedd aros, mynd i’r afael â’r ôl-groniad, penderfynu pa ofal sy’n cael ei roi i bwy a phryd, a’r effaith economaidd-gymdeithasol ar iechyd a llesiant.
Rydym wedi estyn allan i ymgysylltu ag arbenigwyr iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, gwleidyddion, cleifion, y cyfryngau a’r cyhoedd mewn cyfres o ddigwyddiadau ar-lein i bwysleisio’r problemau sy’n wynebu iechyd a gofal a thrafod syniadau a datrysiadau ar gyfer y dyfodol.
Mae ein cyfres o ddigwyddiadau trafod a gynhaliwyd drwy gydol 2021 yn dwyn ynghyd arweinwyr iechyd a gofal a chynrychiolwyr gyda chlinigwyr, staff ar y rheng flaen, rheolwyr, cleifion a’r cyhoedd.
Cyflwynwyd mewn partneriaeth â Conffederasiwn GIG Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig, Gofal Cymdeithasol Cymru a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.
Dewisiadau anodd i ddod
Roedd y ddau ddigwyddiad cyntaf ar 26 a 27 Ionawr yn canolbwyntio ar sut i reoli’r ôl-groniad o ofal a pha wasanaethau y gellid eu trosglwyddo o ysbytai i’r gymuned.
Mynychwyd y digwyddiad cyntaf gan ystod eang o gyfranogwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a chafwyd trafodaeth gyda grŵp o glinigwyr arbenigol yn nigwyddiad dau.
Roedd y tri digwyddiad trafodaeth panel dilynol yn cynnwys ystod o gyfranogwyr o sefydliadau ledled Cymru a chwestiynau a sylwadau gan gynulleidfaoedd. Fel rhan o’n digwyddiad ar 4 Chwefror, ystyriwyd y darlun ehangach, y tu hwnt i’r GIG ei hun, sy’n cael effaith fawr ar iechyd a llesiant y boblogaeth gan gynnwys; diweithdra, tlodi, anghydraddoldeb, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.
Cyflenwad a galw
Roedd y digwyddiad ar 11 Chwefror yn ystyried y prif fater o gyflenwad a galw a sut mae hyn yn effeithio ar bob math o ofal; sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol. Roedd hefyd yn ystyried sut ydym yn gwneud gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy darbodus a’r ffyrdd y mae angen i ni wneud pethau’n wahanol, gan ddarparu gofal yn agosach at y cartref.
Ymrwymiadau'r maniffesto
Cyn etholiadau’r Senedd, fel rhan o bumed digwyddiad y gyfres ar 4 Mawrth, gwahoddwyd llefarwyr iechyd a gofal o bob un o bleidiau gwleidyddol Cymru – Vaughan Gething AS, Angela Burns AS and Rhun ap Iorwerth AS – i ateb cwestiynau allweddol ynghylch y penderfyniadau anodd sydd i ddod a sefydlu’r ymrwymiadau yn eu maniffesto.
Technoleg fuddiol
Ar 12 Hydref, trefnasom banel o arweinwyr iechyd a gofal digidol gyda chynulleidfa ar-lein i ddadlau’r heriau sy’n dod law yn llaw â thechnoleg ddigidol, yn ogystal â’r buddion. Ystyriwyd y modd yr aethpwyd ati i gyflawni arloesiadau digidol yn llwyddiannus yn gyflym yn ystod y pandemig a sut ellir datblygu hyn, yn ogystal ag ystyried sut i alluogi’r cyhoedd i geisio technolegau newydd, eu deall a manteisio arnynt.
Persbectifau rhyngwladol
Rhannu persbectifau o Gymru, yr UDA, yr Eidal, Sbaen a Seland Newydd ynghylch effaith pandemig y coronafeirws, sut mae gwahanol wledydd yn adfer ac yn dod yn ôl ar eu traed a beth mae hyn yn ei olygu i Gymru.
Mae’r gyfres Gwneud Pethau’n Wahanol wedi codi ymwybyddiaeth ac wedi hwyluso trafodaeth bwysig ynghylch yr heriau sydd i ddod, a’r angen am newid, a fydd yn sail i’n gwaith yn y dyfodol. Byddwn nawr yn ystyried ac yn gwerthuso’r trafodaethau a’r adborth, ac yn llunio adroddiad cychwynnol.
Gweithio’n agos gyda’n partneriaid
Rydym yn cyflwyno’r gyfres hon o ddigwyddiadau mewn partneriaeth â’r Sefydliad Materion Cymreig, Conffederasiwn GIG Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Chynghorau Iechyd Cymuned Cymru