Lleihau’r Risg

Beth yw ‘Lleihau’r Risg’?

Mae ein Heiriolwyr Bevan yn awyddus i helpu pobl i leihau’r risg o Covid-19. Maent wedi creu cyfres o fideos byrion, ynghyd â hyrwyddo negeseuon syml a chlir.

Mae Eiriolwyr Bevan, y mae nifer ohonynt eu hunain wedi bod yn gwarchod eu hunain drwy gydol cyfnod clo Covid-19, wedi rhannu eu profiadau o fyw drwy’r pandemig, ynghyd â’u safbwyntiau a’u profiadau o ddychwelyd i fyw bywyd ar ôl y cyfnod clo. Maent yn awyddus i ddefnyddio’r profiadau hyn i gefnogi’r cyhoedd i barhau i leihau’r risg. #LleihaurRisg

Sut allaf i gymryd rhan?

​Gallwch ymuno â’r prosiect ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r hashnodau #LleihaurRisg #EiriolwyrBevanYnCodiLlais

Cadwch lygad yn agored ar gyfer ein ffilmiau byr a’n negeseuon a chadw’ch mewn cysylltiad.

Mae’r prosiect hwn yn cefnogi gwaith Esiamplwr Bevan, sef Dr Helen Iliff, sy’n arwain yr ymgyrch Distance Aware – mae rhagor o wybodaeth ynghylch y bathodynnau, y cortynnau a’r posteri ar gael i gefnogi pellter cymdeithasol ar dudalen we Distance Aware.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Eiriolwr Bevan, cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

quotation icon

Mae Eiriolwyr Bevan yn parhau i godi eu llais. Yr wythnos hon, wrth i’r gofyniad i warchod eich hun rhag y feirws oedi, maent yn lansio ymgyrch o’r enw #LleihaurRisg. Daeth y syniad gan Rob Griffiths, sef un o’n Heiriolwyr. Mae’r ymgyrch yn cefnogi canllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru o ran bob un ohonom yn symud ymlaen mewn ffyrdd gwahanol, a gwneud hynny yn ddiogel. Ar yr un pryd, mae’n cynnig anogaeth a chefnogaeth i’r rhai sy’n teimlo’n bryderus ynghylch ein sefyllfa mewn perthynas â’r coronafeirws. I ddechrau arni, rydym yn cynnal ymgyrch sylfaenol ar gyfryngau cymdeithasol, gan ledaenu’r neges #LleihaurRisg, yn ogystal â’r neges bod gan bawb gyfrifoldeb am hyn.

Barbara Chidgey

Eiriolwr Bevan