“Pleser gennym oedd arwain y rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu genedlaethol hon. Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod syniadau llwyddiannus, arloesol yn cael eu mabwysiadu a’u lledaenu ledled Cymru…Ein nod oedd canfod beth sy’n gwneud i syniadau da barhau a lledaenu… Drwy rannu’r dystiolaeth a’r ddysg hon, gallwn ddylanwadu ar ddulliau mabwysiadu lleol a chenedlaethol am flynyddoedd i ddod, a bod yn sail iddynt.”
Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu
Sharing our learning across Wales, the UK and globally
Mae Comisiwn Bevan wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ers mis Tachwedd 2018 i ddatblygu rhaglen i brofi a datblygu methodoleg i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu a lledaenu arloesedd yng Nghymru. Mae gennym brofiad o gefnogi Esiamplwyr Bevan sy’n arbenigwyr iechyd a gofal i ddatblygu eu syniad arloesol. Mae’r Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu yn estyniad naturiol i gefnogi’r Esiamplwyr gyflwyno eu harloesiadau llwyddiannus i dimau eraill yng Nghymru. Gan fod y Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu yn canolbwyntio ar ymchwil yn ogystal â chyflawni, rydym yn casglu’r data ac yn ychwanegu at y sylfaen wybodaeth ynghylch cefnogi mabwysiadu a lledaenu llwyddiannus. Gan weithio gyda Phrifysgol Abertawe a’n tîm ymchwil mewnol, rydym yn dwyn y ddysg ynghyd fel rhan o’r rhaglen fyw a byddwn hefyd yn ysgrifennu adroddiad i’w gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2021. Dyma grynodeb byr o’r prosiectau a’r bobl ynghlwm:
- Mae 15 o brosiectau gan Esiamplwyr yn cymryd rhan yn y Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu yng Nghymru yn dilyn galwad agored rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 2019.
- Dechreuodd 46 o safleoedd Mabwysiadu Arloesedd weithio ym mis Ionawr 2020 i ymgymryd â gwaith yr Esiamplwyr er mwyn gwneud gwahaniaeth yn eu tîm a’u sefydliadau.
- Datblygodd hyn yn 54 o leoliadau mabwysiadu erbyn diwedd y rhaglen.
- Caiff dros 95 o staff sy’n cymryd rhan (arloeswyr a mabwysiadwyr) eu cefnogi gan Comisiwn Bevan gyda sesiynau hyfforddiant, datblygu a rhwydweithio unigryw. Gweithiant yn eu timau prosiect ar draws 9 sefydliad iechyd a gofal (gan gynnwys y saith Bwrdd Iechyd) yng Nghymru.
- Mae timau’r prosiect yn cael eu cefnogi gan Arweinwyr Mabwysiadu a Lledaenu, hyfforddwyr/mentoriaid a sefydliadau partner, gan gynnwys Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Academi Gyllid GIG Cymru, Cyflymu, AgorIP, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Uned Gyflawni Cyllid GIG Cymru, a Phrifysgol Abertawe.
Gwyliwch y cyflwyniad
Dechrau arni
Cynhaliwyd y Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu rhwng 2019 a 2021 wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda’r ddysg yn cael ei rhannu yng Nghymru a thu hwnt. Ein dull gweithredu oedd profi sut mae Esiamplwyr Bevan yn lledaenu arloesiadau i leoliadau eraill gyda charfan o Fabwysiadwyr. Darllenwch y cyflwyniad i glywed am ein nodau.
Gweithio drwy Covid-19
Mae’r canfyddiadau cynnar yn dangos canlyniadau addawol gyda gwaith mabwysiadu llwyddiannus cyn pen rhai misoedd ac er gwaethaf yr heriau mae sawl tîm yn eu hwynebu oherwydd COVID-19. Gwnaethpwyd nifer o newidiadau i gynlluniau gwreiddiol y prosiectau. Gweithiodd dîm y Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu yn agos gyda’r holl Esiamplwyr a Mabwysiadwyr er mwyn cynnal y momentwm pryd bynnag roedd hynny’n bosibl a chefnogi oedi ac adegau o ailddechrau strwythuredig i brosiectau hefyd. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael gyda’r Adroddiad Dros Dro.
“Rydym wrthi yn perffeithio’r adroddiad terfynol a byddwn yn diweddaru’r safle yn funa, ond yn y cyfamser, cliciwch isod a gwyliwch i gael blas o’r llwyddiannau”
Dr Rupa Chilvers, Dirprwy Gyfarwyddwr ac Arweinydd y Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu