Ymunwch ag amgylchedd dysgu cyfoethog, heriol a chwim, lle bydd cymheiriaid a siaradwyr gwadd fel ei gilydd yn eich helpu i feddwl yn wahanol, herio ffyrdd o weithio, a’ch helpu i weld pethau o wahanol safbwyntiau.
P’un a ydych yn newydd i faes iechyd a gofal cymdeithasol, neu’n gweithio ar hyn o bryd i arloesi a thrawsnewid gwasanaethau, dyma’ch cyfle i weithio gydag arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol i baratoi ar gyfer 2023 a thu hwnt.
Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i symud yn gyflymach, gan weithio gyda phobl sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth a datblygu atebion arloesol i heriau cyfredol a rhai sy’n dod i’r amlwg.
Arloesi a’ch heriau eich hun
Mae’r wythnos ddysgu ddwys hon yn canolbwyntio ar arloesi a mynd i’r afael â’ch heriau eich hun. Mae’n gyfle unigryw i chi gymryd amser allan o’ch gwaith beunyddiol er mwyn camu’n ôl a chanolbwyntio ar ddatblygu’r ffordd rydych chi’n meddwl ac yn gweithio gydag eraill i wella eich system iechyd a gofal.
Dysgu cymhwysol dan arweiniad cymheiriaid ar ei orau
Drwy ein rhaglen amrywiol a hynod ryngweithiol, bydd yr wythnos ddysgu pum niwrnod hon yn cynnwys cyfuniad o gyflwyniadau, astudiaethau achos, paneli trafod, trafodaethau mewn grwpiau bach, sesiynau gwaith grŵp a sesiynau hyfforddi.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Mae Wythnos Dysgu Dwys Arloesi wedi’i bwriadu ar gyfer:
- Gweithwyr iechyd a gofal ar bob lefel yn y systemau iechyd a gofal, llywodraeth leol a’r trydydd sector
- Gweithwyr rheng flaen iechyd a gofal yn y Trydydd Sector, Elusennau a Chyrff Anllywodraethol
- Pobl sy’n gweithio mewn cwmnïoedd neu sefydliadau ar gynnyrch, gwasanaethau neu flaenoriaethau iechyd a gofal