Gwneud Pethau’n Wahanol: Cefnogi Datblygiad Gwasanaeth yn y Gymuned
Cyhoeddwyd:
Yn y papur hwn mae’r Comisiwn yn amlinellu nifer o awgrymiadau a fydd yn gymorth i osgoi derbyn pobl i’r ysbyty drwy ddarparu mynediad gwell at ofal yn agosach at y cartref a chreu cymunedau iachach.
Mae’n ei wneud yn amlwg bod gwir gyfle i ddatblygu ar y newidiadau a wnaed yn ystod y pandemig ac ail-ddylunio a symleiddio ffyrdd newydd o weithio sydd o fudd i’r claf drwy ddarparu mwy o gefnogaeth yn y gymuned.
Ymhlith yr argymhellion mae’r canlynol:
- Gwneud y mwyaf o botensial Arbenigwyr Perthynol i Iechyd yn y gymuned a gwasanaethau’r Stryd Fawr, yn cyflawni gofal megis fferyllfa, podiatreg, offthalmoleg a ffisiotherapi mewn lleoliadau cymunedol
- Trawsnewid gwasanaethau paratoi at driniaeth ac adsefydlu y tu hwnt i ysbytai, gan gynnwys canolfannau hamdden, cyfleusterau cymunedol a chymorth digidol.
- Sefydlu gwasanaeth hunan-reoli drwy dechnoleg er mwyn cynorthwyo gyda rheoli pobl a monitro eu hiechyd a’u llesiant eu hunain o bell
- Ehangu Profion yn y Man Lle y Rhoddir Gofal er mwyn sicrhau y gall gofal gefnogi gyda sicrhau bod nifer o brofion, a fyddai wedi cael eu gwneud mewn ysbytai yn y gorffennol, yn digwydd yn gynharach ac yn gyflymach yn gymuned, gan amrywiaeth o arbenigwyr iechyd.
Noder: Dylid darllen y papur hwn ochr yn ochr â’r cyhoeddiad gan y Comisiwn Bevan ‘Gwneud Pethau’n Wahanol: Mynd i’r Afael â’r Ôl-groniad ar ôl Covid-19.