Methodoleg CAAI: Canllaw dechrau arni ar gyfer mabwysiadwyr

Cyhoeddwyd:

Author:

Mae’r canllaw hwn yn cyflwyno’r fethodoleg CAAI ac yn darparu rhai diffiniadau a’r prif gysyniadau defnyddiol wrth ddefnyddio’r fethodoleg. Mae tri chanllaw arall sy’n rhoi mwy o fanylion ynghylch defnyddio’r fethodoleg CAAI.

Mae’r gefnogaeth ar gyfer mabwysiadwyr a’u timau a gyflwynir yn y pecyn cymorth hwn yn seiliedig ar y fethodoleg Cysylltu er Mabwysiadu ac Addasu Arloesedd (CAAI) a ddatblygwyd fel rhan o raglen genedlaethol fyw, o’r enw Mabwysiadu a Lledaenu, a gafodd ei chwblhau yng Nghymru. Datblygwyd yr arloesiadau gan arbenigwyr iechyd a gofal a elwir yn ‘Esiamplwyr Bevan’ ac fe’u gweithredwyd mewn safleoedd mabwysiadu ledled Cymru. Roedd gan bob safle mabwysiadu arweinydd a oedd hefyd yn arbenigwr iechyd a gofal. Gan weithio gyda’u tîm, a chyda chefnogaeth gan arweinwyr eu sefydliad, gweithiodd mabwysiadwyr ar gyflwyno arloesedd gan Esiamplwyr i’w gwasanaeth neu’r bobl sy’n ceisio eu gwasanaeth. Mae’r arweinwyr sefydliadau sydd ynghlwm fel arfer yn gweithio ym maes trawsnewid, arloesedd, ymchwil neu wella. Mae’r Rhaglen Mabwysiadu a Lledaenu yn cyd-fynd ag amrywiaeth o raglenni cysylltiedig neu gyffelyb eraill, a chafodd y gwersi a ddysgwyd drwy’r rhain eu cynnwys fel rhan o waith datblygu’r fethodoleg CAAI.