Skip i'r prif gynnwys
Lawrlwytho Cyhoeddiad

Awdur: Comisiwn Bevan

Cyhoeddwyd: 

Mae yna uchelgais hirsefydlog gan Weinidogion Cymru o greu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol o safon fyd-eang yng Nghymru, 'gwasanaethau sy'n gweddu orau i Gymru ond sy'n cymharu â'r gorau yn unrhyw le' (Llywodraeth Cymru 2011). Er mwyn cyflawni hyn yn erbyn cefndir o alw cynyddol a chaledi bydd angen ymagwedd a diwylliant gwahanol iawn i'r hyn sy'n amlwg hyd yma. Mae'r papur hwn yn amlinellu cyfres o argymhellion i ail-lunio'r berthynas rhwng dinesydd a gwladwriaeth.