Uwch Gymrawd Bevan
Mae Ross yn Barafeddyg ac yn Ddirprwy Brif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans GIG Cymru
Mae wedi gweithio mewn nifer o sefydliadau yn y GIG a Llywodraeth Cymru.
Mae ei brosiect yn canolbwyntio ar ddeall ysgogwyr galw am ambiwlans 999 a datblygu dull comisiynu ar gyfer gwasanaethau ambiwlans trwy lens penderfynyddion cymdeithasol iechyd.
Mae’n gobeithio defnyddio profiad, cyngor a mentoriaeth pobl a rhwydweithiau Comisiwn Bevan i wella’r gwaith hwn, a’i ddefnyddio fel sbardun ar gyfer rhannu allbynnau’r gwaith hwn ar draws y DU ac yn rhyngwladol.