Dylanwadwr Clinigol, Carfan 3
Sarah Cadman, Arweinydd Rhaglen Genedlaethol, Rhaglen Diogelwch Cleifion/ Rhaglen Gofal Acíwt ac Argyfwng, Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl, Perfformiad a Gwella'r GIG
Addysgwyd Sarah yn Ysgol Therapi Galwedigaethol Cymru ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i greu gyrfa gydag ystod eang o brofiad clinigol ar draws gwasanaethau iechyd meddwl, ar ôl gweithio mewn ysbytai, lleoliadau iechyd meddwl cymunedol a gofal sylfaenol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Sarah wedi arwain ar ansawdd, diogelwch a gwelliant mewn iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar lefel Bwrdd Iechyd, gan greu rhwydweithiau cryf gyda chlinigwyr a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau i hyrwyddo a datblygu arfer da, wedi’u llywio gan yr ymchwil a’r seiliau tystiolaeth diweddaraf. Cwblhaodd Sarah MSc mewn Arweinyddiaeth ar gyfer y Proffesiynau Iechyd yn 2022 ac mae ganddi ddiddordeb cryf mewn arweinyddiaeth dosturiol mewn gofal iechyd.
Ar ôl cael ei phenodi’n ddiweddar yn Arweinydd Rhaglen Genedlaethol yn y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yng Ngweithrediaeth GIG Cymru, bydd Sarah yn gweithio gydag arbenigwyr o brofiad ac arbenigwyr fesul galwedigaeth ar draws gwasanaethau iechyd meddwl yn y GIG, sefydliadau statudol eraill a sefydliadau anllywodraethol/partneriaid Trydydd Sector i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru. Wrth gyd-gynllunio a chynhyrchu model gofal sy’n cael ei arwain gan anghenion, bydd ansawdd y canlyniadau a’r profiad i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau a phobl sy’n darparu gwasanaethau yn gwella’n sylweddol.




