Cymrawd Bevan
Mae gan Tim gefndir mewn dysgu a datblygu, ar ôl treulio nifer o flynyddoedd fel athro ysgol uwchradd ac uwch arholwr cyn cymryd rôl arweiniol mewn datblygu llwyfan hyfforddi ar gyfer un o yswirwyr mwyaf y DU.
Mae wedi bod yn rhan o Wasanaeth Byw’n Dda Powys ers mis Ebrill 2021, i ddechrau fel Hwylusydd Digidol Arweiniol ac yna Rheolwr Busnes.
Mae ei rôl yn cynnwys rheoli cyflwyniad gweithredol y gwasanaeth gan gynnwys darparu cefnogaeth ar gyfer eu holl brosiectau digidol, o'r ffordd y mae'r gwasanaeth yn defnyddio systemau clinigol hyd at helpu pobl i gael mynediad at ymgynghoriadau ar-lein.
Mae'n mwynhau'r her o wneud y gwasanaeth yn hygyrch i bawb. Mae’n angerddol wrth ddefnyddio technoleg i gefnogi gwaith y gwasanaeth, ac mae’n falch o’r partneriaethau y mae’r tîm wedi’u datblygu i alluogi hyn.
Yn ddiweddar cwblhaodd Tim ei MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol, ac mae’n cadeirio Cymuned Ymarfer sy’n canolbwyntio ar Gynhwysiant Digidol, Hygyrchedd ac Addysg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd ffocws Tim yn ystod Cymrodoriaeth Bevan ar ddatblygu pecyn cymorth ar gyfer timau amlddisgyblaethol i’w helpu i ddeall eu defnyddwyr gwasanaeth yn well a darparu gwasanaethau cynhwysol mewn ardal wledig.
Bydd yn edrych ar arferion da presennol yng Nghymru ac yn adeiladu arnynt i ddatblygu model i seilio pecyn cymorth arno ar gyfer datblygu gwasanaethau hygyrch. Gan gydnabod bod disgwyl i wasanaethau megis Gwasanaeth Byw'n Dda Powys sy'n cwmpasu ardaloedd gwledig gefnogi unigolion ag ystod amrywiol o anghenion, byddai'r gwaith yn dechrau drwy nodi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol a datblygu strategaeth ffurfiol i fynd i'r afael â hwy. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi darparu gwasanaethau, yn ogystal â'r angen am wybodaeth briodol a strwythurau llywodraethu corfforaethol wrth ddatblygu a chynnal partneriaethau gyda sefydliadau allanol.
Y cynnyrch terfynol fydd pecyn cymorth amlgyfrwng yn cyfuno ymchwil o wasanaethau/ardaloedd/gwledydd eraill a phrofiadau ymarferol o ddatblygu gwasanaethau ym Mhowys i gefnogi gwasanaethau gwledig eraill i adolygu hygyrchedd eu gwasanaethau a nodi/mynd i'r afael â rhwystrau i fynediad. Bydd y pecyn cymorth yn cynnwys amrywiaeth o dechnegau y gellir eu defnyddio i helpu timau amlddisgyblaethol ledled Cymru i ddeall sut mae defnyddwyr yn gweld eu gwasanaeth a nodi cyfleoedd allweddol i roi newid cadarnhaol ar waith.
“Rwy’n gobeithio y bydd fy Nghymrodoriaeth Bevan yn rhoi cyfleoedd i mi barhau ag ymchwil i’r dulliau a ddefnyddir ledled Cymru a ledled y byd i wella hygyrchedd gwasanaethau a datblygu cyfuniad cytbwys o ofal iechyd digidol a phersonol.
Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Cymrodoriaeth Bevan yn ehangu fy rhwydwaith proffesiynol ac yn fy helpu i ddatblygu’r gwaith yr wyf wedi bod yn ei wneud o amgylch Cynhwysiant Digidol a Hygyrchedd ar ôl cwblhau fy MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol, gan gynnwys y Gymuned Ymarfer sy’n canolbwyntio ar Gynhwysiant a Hygyrchedd yr wyf arwain.
Rwy’n cydnabod pwysigrwydd datblygu partneriaethau gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i gefnogi’r gwaith a wnawn gydag unigolion ac edrychaf ymlaen at ddysgu a rhannu arferion da a phrofiadau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol gyda chefnogaeth Comisiwn Bevan.”




