Skip i'r prif gynnwys

Mae Cymru’n wynebu’r amseroedd aros uchaf erioed ar draws ei systemau iechyd a gofal, gyda dros 800,000 o lwybrau cleifion ar agor ym mis Hydref 2024—cynnydd o 73% o’i gymharu â lefelau cyn-bandemig. Mae’r oedi hwn yn erydu ymddiriedaeth y cyhoedd, yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, ac yn rhoi straen ychwanegol ar weithlu sydd eisoes dan bwysau.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlygu nifer o brosiectau Enghreifftiol Comisiwn Bevan ar draws ystod o feysydd sy’n mynd i’r afael â thagfeydd penodol, yn gwella llif cleifion, ac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Gallai mabwysiadu’r dulliau hyn ledled Cymru ddarparu cymorth ar unwaith i helpu i leihau amseroedd aros, gyda’r potensial i ryddhau miloedd o apwyntiadau meddygon teulu bob blwyddyn, lleihau derbyniadau i’r ysbyty a diwrnodau gwely, a byrhau rhestrau aros drwy wella effeithlonrwydd mewn diagnosteg, llawdriniaeth, a gofal yn y gymuned.