Skip i'r prif gynnwys

Cymrawd Bevan

Dechreuodd Carla Dix ei gyrfa mewn llywodraeth leol dros 22 mlynedd ar draws adrannau amrywiol o fewn tai a gwasanaethau cymdeithasol. Ers 2011 mae hi wedi gweithio’n bennaf yn y sector Gofal drwy Dechnoleg ac ymunodd â Llesiant Delta yn 2019 fel Arweinydd ei Rhaglen Arloesedd Strategol.

Roedd Carla yn allweddol wrth sefydlu a darparu gwasanaeth CONNECT arobryn Delta Wellbeing sy’n trawsnewid y ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu ar draws gorllewin Cymru.

Fel Cymrawd Bevan bydd Carla yn ceisio datblygu ymhellach y gwaith cydweithredol y maent wedi’i gyflawni gyda CONNECT hyd yma, manteisio ar y llwyddiannau a lledaenu’r fenter ragweithiol ac ataliol ledled Cymru.

Mae Carla yn gweld hwn yn gyfle i ddylanwadu’n gadarnhaol ar y ffordd y mae trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei gyflawni ledled Cymru. I Bydd yn rhannu ei phrofiadau; yr enillion cyflym a’r buddion o weithio’n ataliol ac amlygu’r heriau a’r rhwystrau i lwyddiant a sut maent wedi eu goresgyn – gan alluogi sefydliadau eraill i fabwysiadu, addasu a lledaenu gwasanaeth llwyddiannus yn gyflym.

Mae hi’n gobeithio y bydd Cymrodoriaeth Bevan yn:

  • ei herio a’i galluogi i herio eraill o fewn gofod arloesol,
  • cyflymu ei datblygiad proffesiynol drwy gymorth mentora gan Gomisiwn Bevan,
  • cynnig cyfle unigryw iddi adeiladu ei rhwydwaith o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol
  • sefydlu gwell cysylltiadau â'r byd academaidd i hyrwyddo ymchwil i ddarpariaeth a datblygiad gwasanaethau Gofal a alluogir gan Dechnoleg (TEC).