Skip i'r prif gynnwys
Astudiaeth Achos Peidiwn â Gwastraff

Arbed costau a lleihau gwastraff drwy gaffael cynaliadwy

Yn 2018, dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda archwilio ffyrdd o arbed arian ac adnoddau, gyda phwyslais ar gydnabod pryd y gellid ailddefnyddio offer yn hytrach na chael rhai newydd yn eu lle. O ganlyniad, mae’r bwrdd iechyd wedi sicrhau arbedion ariannol o £230,000. Mae hyn yn cyfateb i 41 tunnell o wastraff wedi'i ddargyfeirio a gostyngiad o 161 tunnell o CO2e.