Wedi ei eni o adfeilion byd mewn argyfwng, mae’r GIG yn dyst parhaus i’r pethau anhygoel sy’n digwydd pan mae pobl yn dod ynghyd er lles pawb.
Ers 75 mlynedd, mae’r GIG wedi bod yn sylfaen i’n cymdeithas; yn diogelu’n cymunedau, ein ffrindiau, a’n teuluoedd. Mae’r GIG wedi cyflawni cymaint, ond bellach mae’n wynebu heriau digynsail byd-eang, yn cynnwys Covid-19, poblogaeth sy’n heneiddio, a’r argyfwng hinsawdd.
Rydym wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Mae’n amser i ni wynebu’r heriau hynny gyda’n gilydd ac ailadeiladu ein GIG i ffynnu yn y byd yfory. Rydym wedi gwneud hynny o’r blaen, a gallwn wneud hynny eto.
Ymunwch â ni ar 5/6 Gorffennaf am sgyrsiau agored a gonest am ddyfodol ein gwasanaeth iechyd. Pa ran wnewch chi ei chwarae?
Mae’r gynhadledd hon yn cynnwys dau ddiwrnod arbennig sy’n ymdrin â 4 thema:
Mae’r gynhadledd hon yn cynnwys deuddydd anhygoel yn llawn o siaradwyr adnabyddus rhyngwladol fydd yn herio’r ffordd yr ydych yn gweld dyfodol iechyd a gofal, yn cynnwys:
Bydd gennym hefyd ystod ddynamig o sesiynau grŵp ysgogol gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal.
Rydym hefyd yn eich annog i ymuno â ni ar gyfer cinio cynhadledd ar 5 Gorffennaf. Gweler ‘adia-ons’ wrth archebu tocynnau.
I holi am ddulliau talu amgen, cysylltwch â bevan-commission@swansea.ac.uk.