Skip i'r prif gynnwys

Mae Chris yn gyn Gyd-Gadeirydd Comisiwn Bevan gyda diddordeb mewn arloesi a gofal diwedd oes. 

Wedi’i eni a’i fagu yn Sir Benfro, enillodd Chris radd anrhydedd mewn Fferylliaeth yng Nghaerdydd cyn dechrau ei fywyd gwaith gyda Boots the Chemist, gan fynd ymlaen i fod yn berchen ar ddau fusnes fferylliaeth gymunedol annibynnol llwyddiannus yn y Gorllewin ac yn ôl yn Sir Benfro ac adeiladu arnynt. 

Mae ganddo brofiad helaeth yn y Sector Cyhoeddus ar ôl bod yn Gadeirydd pedwar sefydliad iechyd ar wahân yng Ngorllewin Cymru a ddaeth i ben drwy fod yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Conffederasiwn GIG Cymru ac yn gadeirydd cydgysylltu holl sefydliadau iechyd Cymru. 

Roedd hefyd yn Gadeirydd Annibynnol y Grŵp Gweithredu Rhagnodi Darbodus, y grŵp Taliadau Fferylliaeth Gymunedol ac Arloesi Iechyd Cymru Wales. 

Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf, yn Gadeirydd grŵp cyflawni Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Mae'n Gadeirydd Porthladd Aberdaugleddau (y trydydd porthladd mwyaf yn ôl cyfaint yn y DU) ac yn Gynghorydd Anweithredol ar Fwrdd Alliance Healthcare Distribution UK Ltd (Cyfanwerthwr Fferyllol mwyaf y DU). 

Mae ganddo sawl rôl wirfoddol ac elusennol gan gynnwys bod yn Ymddiriedolwr ac yn aelod o Fwrdd Marie Curie UK, Cadeirydd Bwrdd Cynghori Cymru ar gyfer Marie Curie, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Pwll Nofio Hwlffordd ac mae’n gweithredu fel mentor yn wirfoddol. 

Dyfarnwyd cymrodoriaeth i Chris gan Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr yn 2006 am gyfraniad eithriadol i arfer fferylliaeth gymunedol a Doethuriaeth er Anrhydedd (DLitt) gan Brifysgol Abertawe yn 2018 i gydnabod ei yrfa ddisglair a’i gyfraniad i fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Yn fwyaf diweddar mae wedi dod yn Ddirprwy Raglaw Dyfed ac yn aelod ar banel beirniadu Gwobr y Brenin am Fenter (Datblygu Cynaliadwyedd).