Arweinydd Arloesi
Dr Tom Howson yw Arweinydd Arloesi Comisiwn Bevan ac mae'n goruchwylio portffolio amrywiol y Comisiwn o raglenni, prosiectau a phartneriaethau arloesi. Mae cefndir academaidd Tom wedi'i seilio ar astudio Gwyddorau Biofeddygol, tra bod ei ddoethuriaeth yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar astudio gweithgaredd arloesi yn y sectorau Gwyddor Bywyd ac Iechyd. Yn broffesiynol, mae Tom wedi gweithio o'r blaen yn y diwydiant Eiddo Deallusol (IP) ac ar gyfer rhaglenni cyflymu arloesedd iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ogystal, mae Tom yn Adolygydd Tystiolaeth NIHR ac yn Ymddiriedolwr ar gyfer elusen Iechyd Mamolaeth Ryngwladol.