Skip i'r prif gynnwys

Cymrawd Bevan

Mae Edwin yn cael ei adnabod fel Prash gan ei ffrindiau a'i gydweithwyr. Mae wedi bod yn llawfeddyg llaw ac orthopedig ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd ers 2012. Mae ganddo ddiddordeb clinigol mewn anhwylderau nerfol ac adlunio cymalau bach yn y llaw a’r arddwrn. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys niwrowyddoniaeth sut mae’r ymennydd yn rheoli ac yn synhwyro’r llaw, ac mae wedi bod yn cydweithio â phrifysgol Bangor ar 3 PhD dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae gan Prash ddiddordeb mawr hefyd mewn gofal iechyd cynaliadwy. Mae wedi cyhoeddi gwaith ar leihau ôl troed carbon llawdriniaeth law, ac wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon. Mae hefyd wedi ennill gwobr leol yn 2023 gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am gyflwyno protocol ar gyfer lleihau costau, a gwastraff mewn llawdriniaeth twnnel carpal a arweiniodd at ostyngiad o 80% yn ôl troed carbon y llawdriniaeth hon.

Mae Prash yn aelod o gyngor Cymdeithas Brydeinig Llawfeddygaeth y Llaw (BSSH), ac mae’n gweithio ar lefel genedlaethol i ddod â chynaliadwyedd amgylcheddol i frig yr agenda.

Mae prosiect Cymrawd Bevan Prash yn canolbwyntio ar hyrwyddo gweithredu mewn ystafelloedd llawdriniaethau llai (MOPS) yn hytrach na theatrau llawdriniaethau mawr. Mae'n bosibl gwella cynhyrchiant, arbedion ariannol a gostyngiad mewn allyriadau carbon. Gellir gwneud hyn gan

  1. Symud achosion mân lawdriniaethau dwylo allan o theatrau llawdriniaethau
  2. Symleiddio hambyrddau offer a lleihau offer diangen
  3. Lleihau cynhyrchu gwastraff llawfeddygol
  4. Osgoi plastigau ac offer untro
  5. Defnyddio llenni a gynau llawfeddygol y gellir eu hailddefnyddio

Ffocws ei brosiect yw arddangos yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’i ddatblygu hyd yn oed ymhellach. Yna mabwysiadu a lledaenu, i hyrwyddo'r fethodoleg hon ar lefel genedlaethol. Mae Prash yn cael sgyrsiau gyda grŵp y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth Orthopedig (NCSOS). Maent yn grŵp a arweinir gan glinigwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i wella a safoni gofal mewn llawfeddygaeth orthopedig yng Nghymru.

Ymgymerir â'i brosiect ar y cyd â'i gyd-lawfeddyg yn Betsi Cadwaladr, Mr Preetham Kodumuri; mae hefyd yn Gymrawd Bevan.

Trwy ei Gymrodoriaeth Bevan mae Prash yn gobeithio:

  1. Addysgu a hyfforddi llawfeddygon eraill yng Nghymru a’r DU i ddod yn fwy llythrennog yn egwyddorion gofal iechyd cynaliadwy mewn ymarfer llawfeddygol.
  2. Mabwysiadu a Lledaenu'r neges y gall llawfeddygon helpu i leihau effaith amgylcheddol gofal llawfeddygol.
  3. Codi proffil ei adran.
  4. Helpu i ddangos bod GIG Cymru wedi ymrwymo i chwarae ei ran i helpu i gyrraedd ei darged allyriadau sero net ei hun erbyn 2040.

“Rwy’n gobeithio y gall presenoldeb a chefnogaeth Comisiwn Bevan roi’r gefnogaeth, y cysylltiadau a’r llwyfan i mi wneud y mwyaf o effaith y prosiect hwn, gan ei helpu i gyflawni ei lawn botensial.”