Skip i'r prif gynnwys

Ar hyn o bryd mae Fran yn Gadeirydd annibynnol Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Llywodraeth Cymru gan ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth arbenigol i Weinidogion Cymru ar sut i ddatblygu’n strategol y ddarpariaeth o wasanaethau gwybodaeth a chyngor lles cymdeithasol ledled Cymru.

Ymddeolodd Fran ym mis Chwefror 2019 fel Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru ar ôl bod yn gysylltiedig â Chyngor ar Bopeth ers 1978 pan ddechreuodd fel cynghorydd gwirfoddol, a chafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru yn 2000, yn gyfrifol am wasanaethau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru.

Hi yw Is-Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Bwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Pwrpas WCVA yw galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda'i gilydd a dyma'r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Mae’n aelod o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hi wedi bod yn aelod o ystod o fyrddau cynghori Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus eraill ac ar hyn o bryd mae’n cynrychioli’r sector gwirfoddol ar y Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol.