Skip i'r prif gynnwys

Swyddog Ymchwil

Ymunodd Hannah R. Williams â Chomisiwn Bevan fel Swyddog Ymchwil yn gweithio ar weithgareddau gwerthuso ac ymchwil sawl rhaglen, gan gynnwys y Rhaglen Arloesi Gofal wedi'i Gynllunio a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae ganddi brofiad o astudio ffurfiau arloesol o drefnu, darparu gwasanaethau a llywodraethu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae ei chefndir addysgol yn cynnwys MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol. Ar hyn o bryd mae hi’n cwblhau ei PhD sy’n archwilio ymdrechion cyd-gynhyrchu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.