Skip i'r prif gynnwys

Dafydd Williams, Gareth Roberts a Matthew Pike

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Hilltop Digital Lab Ltd ac HealthPlace

Nod y prosiect hwn yw chwyldroi sut mae plant a phobl ifanc yn derbyn eu gofal tra byddant yn cael eu hatgyfeirio ac yn aros am wasanaethau iechyd meddwl. Gyda phartneriaid allweddol, bydd y prosiect hwn yn helpu’r garfan i gynnal lles meddyliol da a lleihau’r baich ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chyfeirio plant at asedau’r sector gwirfoddol anghlinigol ac asedau cymunedol a fydd yn eu cynorthwyo i “aros yn dda”, atal dirywiad pellach yn eu lles a galluogi hunanofal a rheolaeth.

Mae'r adnodd ar y we yn darparu swyddogaeth newyddiadurol ac yn cefnogi'r symudiad sy'n digwydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i bresgripsiynu cymdeithasol. Yn seiliedig ar anghenion a chymhellion yr unigolyn, bydd cleifion yn gallu cael mynediad hawdd at gymorth yn y gymuned.