Skip i'r prif gynnwys

Sut gallwn ni wella yng Nghymru

Ar 1 Rhagfyr, daeth Comisiwn Bevan ag arweinwyr iechyd a gofal rhyngwladol ynghyd i drafod a myfyrio ar y gwahanol ddulliau rhyngwladol y mae gwledydd yn eu cymryd at adferiad y system iechyd yn dilyn pandemig Covid-19. Hwn oedd y digwyddiad olaf yn y gyfres Gwneud Pethau'n Wahanol.

Ymunodd arweinwyr o’r Eidal, Sbaen, UDA a Seland Newydd â’r drafodaeth gyda Phrif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget a Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru (Brechlynnau) Dr Gill Richardson, ynghyd ag Arweinydd Rhyngwladol Comisiwn Bevan ac Uwch Gydymaith IFIC, Leo Lewis. . Cafodd ei gadeirio gan Dr Chris Martin.

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar sut mae pob gwlad wedi ymateb i'r pandemig, sut mae eu systemau iechyd wedi addasu i anghenion newidiol eu poblogaethau a phwysigrwydd arloesi ar gyflymder a graddfa.

Gwneud Pethau'n Wahanol